Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

1.10.04

HTV - dyfodol hunaniaeth Gymreig?



Mae son fod Ofcom yn cynnig heddiw y gall ITV dynnu allan o ddarlledu rhanbarthol.

Mae hyn yn ddifrifol, ac yn dangos nid yn unig dirmyg ond difaterwch y gyfundrefn Brydeinig tuag at hunaniaeth Cymru.

Mae HTV - neu ITV 1 Wales - yn cyflani gorchwyl holl bwysig trwy gyfleu cenedl y Cymru i Gymry di-Gymraeg. Mewn byd gyfalafol a marchnad gystadleuol bydd hunaniaeth Gymreig yn cael ei golli os na fydd rheidrwydd ar ITV i ddarlledu rhaglenni Cymreig. Gyda poblogaeth mor fach, bydd y diwydiant cystadleuol yma yn rhoi cyfiawnhad i ITV beidio a darlledu rhaglenni Cymreig am nad oedd digon o farchnad yno iddyn nhw. Bydd pobl Cymru felly yn gweld hunaniaeth Saesnig yn cael ei gyflwyno iddyn hw fel eu hunaniaeth eu hunen - ymestyniad os licwch chi ar brotest diweddar Cymuned yn erbyn Somerfield a Carlsberg gyda Carlsberg yn anog pobl i cefnogi 'your country', Lloegr.

Wrth feddwl mai'r cyfryngau sy'n llunio y rhan fwyaf o addysg pobl (nid addysg ffurfiol) erbyn hyn, mae'n rhyfeddol fod Cymru wedi gwneud cystal. Ond, petawn i'n bod yn sinigaidd, mae hon yn dechneg wych i sicrhau teyrngarwch y Cymry i Loegr a Phrydeindod.

Mae S4C yn ei chael hi'n ddigon anodd fel ag y mae gyda y datblygiadau diweddar newydd yn y dechnoleg ddigidol. Gyda gymaint o gystadleuaeth - cannoedd o sianeli - mae disgwyl i S4C gyfwlyno yr holl arllwy yma mewn dwy sianel. Mater arall yw a ydyn nhw'n gwneud hynny o safon - byddwn i'n ddadlau nad oes disgwyl wrth eu bod yn gorfdo rhannu eu adnoddau ar draws ystod mor eang. Ond gyda gwaredu HTV, a fwy fwy o bwysau ar BBC i ddilyn yr un llwybyr bydd S4C yn gynyddol ddatblygu yn unig sianel a darpariaeth Gymreig. Yn unol a hyn bydd honno trwy gyfrwng y Gymraeg fydd yn creu argraff fwy fyth o 'geto' a diffyg perthnasedd y Gymraeg i bobl ddi-Gymraeg. Bydd naill ai galw wedyn ar i S4C ddarparu rhaglenni Saesneg i ddiwallu anghenion y Cymry di-Gymraeg, fel unig sianel Cymru, neu bydd hi'n cael eu lluncu lan gyda'r holl gystadleuath. Pa bynnag ffordd dyw hi ddim yn edrych yn sefyllfa iach iawn ar ddarlledu yng Nghymru na chwaith darlledu Cymraeg.

Mae'n fater difrifol y mae'n rhaid mynd i'r afael a hi ar fyrder.

Dyw hon ddim yn bwnc arbennig o ddeniadol a secsi i drafod yn ystod cyfnod etholaidau - mae'n anodd cyflyrru pobl gyda pwnc o'r fath, felly galla i ddeall os nad yw'n cael ei drafod yn agored yn ystod yr ymgyrchu, ond mae'n bwnc y bydd yn rhaid i wleidyddion fynd i'r afael a hi pan yn San Steffan.

Mae'n rhaid datganoli darlledu yn llwyr i Gymru, achos dim ond llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru all eld pwysgrwydd darlledu Cymreig.

Does dim disgwyl i lywodraeth Saesnig Lloegr weld yr angen na'r pwysigrwydd - mater i bobl Cymru yw hwn (fel pob mater arall sydd yn ymwneud ag arian Cymru a phobl Cymru a Chymru - ond mater arall eto yw hynny).

Mae yna ddadl gyda'r son fod cytadleuaeth newydd yn bodoli mewn darlledu gyda pobl yn dewis 'niche digital channels'. Mae yna niche amlwg yn bodoli i S4C wedyn, a gallai'r Sianel Gymraeg lenwi'r niche hynny a chael 'subscriptions' ar gyfer ail sianel, tra'n cael ei ran ariannu gan y BBC ar gyfer y brif sianel.

Serch hynny, mae hyn yn broblematig.

Mae'n golygu fod pobl yn gorfod optio i fewn i genedligrwydd i bob pwrpas. Mae rhywun yn dewis bod yn Gymro/aes pan yn 'subscribo' i S4C. Y rheswm rwy'n dweud hyn yw am mai'r cyfryngau yw prif fforwm addysgu cymdeithas yn yr G21ain (nid addysg ffurfiol). Byddai rhywun sydd ddim yn optio i fewn i Gymreictod trwy'r S4C newydd yma yn cael eu trwytho fel Prydeiniwr/Americanwr a hynny trwy iaith a grym y farchnad ag arian, oherywydd galla S4C na chenedl o faint Cymru ddim cystadlu gyda grym anferthol arian y byd Eingl Americanaidd.

Mae'r un yn wir am y we. Tra fo bodolaeth gwefannau fel y Blog yma, Maes-E, Unarddeg, DimCwsg yn wych, eto i gyd, Saesneg yw iaith y we, ac mae'n rhaid i rywun optio i fewn i fyd Cymraeg a Chymreig. I rywun nad sydd yn gwneud hynny yn fwriadol fel pwynt egwyddorol, yna i bob pwrpas, mae'n nhw'n drllen am y byd Eingl-Americanaidd ac yn cael eu trwytho a'u cyflyru i feddwl fel Eingl Americanwr.

Llwyddiant mawr Maes-E wrth gwrs yw normaleiddio y we Gymraeg - mae'n 'accessible' i bawb o ba bynnag allu. Dyna'r sialens sydd yn wynebu darlledu Cymreig yn y ganrif newydd.

Mae'r byd digidol yma. Mae'n rhaid i ni felly normaleiddio cyfryngau Cymreig a Chmraeg, fel ei fod yn cyrraedd pwynt o nad oes yn rhaid i rywun wneud cam nac ymdrech 'ymwybodol' i optio i fewn i Gymreictod na Chymraeg. Dylai'r ddarpariaeth fod yno yn rhan o'u bud naturiol.

Mae'n rhaid felly sicrhau dyfodol yr ychydig gyrff Cymreig sydd gyda ni sydd yn cyflawnni y ddyletswydd hynny eisioes - HTV yw un o;r pwysica.

Hir oes i HTV.

1 Sylwadau:

Ar October 5, 2004 at 10:19 AM, meddai Blogger Rhys Wynne...

Pyndit, ddim i'w wneud gyda'r stori am HTV (er mae'n newyddion drwg) - mae darpariaeth Cymraeig ar gyfer y di-Gymraeg yn wael yn barod. Eisiau dy gyfeirio ar blog annibynol am yr SNP sef http://skakagrall.com/. Mi ddois ar ei draws ar adran 'Government & Politics' ar Britblog.com (http://www.britblog.com/directory/category/politics.html), hefyd mae yna un gan Lafurwr ifanc o Talbot Green, yn Rh C T: http://www.jonathanbishop.org.uk/Web/Weblog/Default.asp?MID=1&NID=59
Dwi'n gwbod nad yw gwefan gyda'r gair Brit a gyda banner Jack yr Undeb yn un delfrydol, ond dwi wedi gosod fy mlog i yno gan nad oes gan dysgwyr gymaint o hang-up am y peth a ni Gymry Cymraeg. Hyd yn oed os ti ddim am restru dy flog yno, mae'n le da i chwilio am flogiau dizorol eraill.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top