Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

14.9.04

UNDEGTRIpwyntDAU-plys


Mae Llafur newydd gynnal cynhadledd i drafod y Comisiwn Richard.

Yn ol y cyfryngau bu i'r gynhadledd dderbyn cynnig Rhodri Morgan, AC a Phrif Weinidog Cymru, ar Gomisiwn Richard.

Yn fras roedd Comisiwn Richard yn cynnig y dylai'r Cynulliad gael hawliau deddfu llawn, ac hefyd y dylai'r alodau gael eu cynyddu i 80, a phob un yn cael ei ethol trwy drefn PR (cynrychiolaeth gyfranol).

Dywedodd Einharweinix Rhodri Morgan nad oedd e am dderbyn yn llwyr holl argymhellion Richard ai fod yn hytrach am gyflwyno syniad newydd, cyfaddawd sy'n cael ei alw yn 13.2+ (ar ol yr adran berthnasol yn adroddiad Richard).

Nawr gellir deall safbwynt Einharweinix yma. Mae sawl un o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru sy'n hollol wrth Gymreig ac yn bendant yn wrth datggnoli. Doedd ond rhaid clywed araith Llew Smith, AS Blaenau Gwent, i weld safbwynt yr adain yma o'r Blaid. Dadleuodd mae llwybyr i lawr y 'separatist root' oedd hyn, a dyna pam fod Dafydd Wigley yn ei gefnogi.

Mae'n rhaid i Einharweinix felly geisio cadw ei blaid yn unedig cyn yr etholiadau cyffredinol ym mis Mai tra ar yr un pryd yn gwthio agenda datganoli ymlaen.

O gadw hyn mewn cof, a dim ond o ystyried hyn gan ddangos rhuddyn o barch at Rhodri Morgan, wy'n cydymdeimlo yn fawr a safbwynt Dafydd Wigley, ac yn teimlo, ar y foment, mai dyna'r llwybyr orau.

Sef yw:
Dywed Comisiwn Richard ei fod yn rhagweld y byddai hyn oll yn dod i ffrwyth erbyn 2011.
Yn gyntaf, mae Cymru wedi bod yn aros 600 mlynedd fel mae hi. Ein bai ni fel dynoliaeth yw ein bod ni'n disgwyl gweld pethau yn digwydd yn rhy fuan - mynnu fod ni yn gweld ffrwyth ein llafur yn syth. Dyw 2011 ddim rhy hwyr. Mae'n gam ar broses hir, ac yn bwysicach fyth yn gam i'r cyfeiriad cywir.

Tan hynny, gallwn ni dderbyn cynnig Rhodri Morgan am ei fod am ennill pleidleiswyr Llafur drosodd i ochr datganoli, a punnai ein bod ni'n lico hynny ai peidio y nhw sy'n dal yr allwedd i punnau fod Cymru am gael eu datganoli ai peidio.

Efallai na fydd Plaid Cymru yn cael y clod haeddianol am wthio'r agenda ymlaen i hyn o beth o. Efallai yn wir y bydd Llafur mewn grym am ddegawdau i ddod. Ond y gwir yw mai agenda y Blaid FYDD hi, ac mae beth sydd yn iawn fydd yn digwydd - does dim gwahaniaeth sut mae'n cael ei wisgo i fyny na phwy sy'n chwythu eu trwmped uchaf eu croch, y ffaith amdani yw ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

Falle fod rhai yn gweld 2011 yn rhy hir, ond y gwir yw rhwng 1997 a 2011 y bydd mwy wedi digwydd i ddatganoli Cymru yn yr 14 mlynedd hynny na beth ddigwyddodd yn y 600 mlynedd cyn hynny.

Nawr falle bydd rhai yn dweud ei fod yn beryglus fy mod i'n datgan hynny gan ei fod yn pandro i bropoganda Llafur. Arwynebol a tila fyddai dadl o'r fath gan ei fod yn diystyrru cyfraniad y mudiad cenedlaethol yn llwyr - ac yn enwedig Plaid Cymru. Byddai dim o hyn wedi digwydd heblaw am fodolaeth a thwf Plaid Cymru.

Na, dyw 13.2+ ddim yn ddelfrydol. Mae'n golygu fod Cymru yn dibynnu ar ewyllys da Lloegr a San Steffan unwaith eto cyn y gallwn ni wneud rhywbeth dros ein hunen. Odi, mae e yn sarhad ar y genedl ein bod yn dal i gael ein trin yn isradd. Ond mae hyn wedi bod yn wir am filenia. Y gwahaniaeth yw ein bod ni wrthi - er yn araf - yn newid y drefn, gam wrth gam.

Dwy ddim yn derbyn y ddadl fod yn rhaid i ni allu cropian cyn cerdded - dadl di-ddim i dawelu lleisiau gwrth ddatganoli Llafur yw hynny. Does dim i ddweud nad ydym ni fel cenedl yn ddigon da i reoli ein hunen nawr. Ond mae'n rhaid i ni ennill ewyllys da pobl Cymru cyn i ni gael hunan reolaeth.

Does dim diben cael hunanreolaeth os, ar ddiwedd y dydd, fod y bobl yn gweld eu hunen fel Saeson neu fel dinasyddion o Loegr. Mae'n rhaid i ni ail adeiladu ein cenedl (os gaf i addasu rywfaint ar chwedl Cynog Dafis).

Os mai trwy gamau bychan megis 13.2+ y mae gwneud hynny yna, 'so be it'.

Serch hynny, alla i ddim derbyn fod yn rhaid i Einharweinix roi addewid am refferendwm ar y mater. Mae hyn, os liciwch chi, yn gam rhy bell yn y cyfaddawdu. Yr unig beth mae hynny'n wneud yw 'fudgeio' popeth ac yn un peth yn gwastraffu amser, ac yn ail yn rhoi amser i wrthwynebwyr datganoli i baratoi eu dadleuon ac adnoddau.

Ystyriwch y peth fel dadl am ryfel. Fod dwy ochr yn cyfaddawdu ond yn raddol yn cyd-fynd, yna mae'n nhw'n cytuno ar ddatrys y peth drwy ryfel. Mae'r ddwy ochr wedyn yn 'entrencho' eu hunen yn eu syniadaeth ac yn paratoi am ryfel gwaedlyd lle nad oes rheswm na man canol - ennill neu cholli yw hi. Dyw hynny ddim yn gwneud dim lles i neb. Bydden well gyda fi fod trafodaethau yn arafu HYD YN OED YN FWY na fod rhyfel cartref ideolegol yn torri mas yng Nghymru eto. Trodd digon y Gymrodorion yn erbyn eu gilydd yn ystod refferendwm '97, oedd wedi creu craith yn y genedl. Craith ddaearyddol hefyd gan fod yna linell pendant ddaearyddol y gellir ei tynnu rhwng Ie a Na. Gall hwn brofi i fod yn niweidiol yn y dyfodol wrth i ni greu y Gymru newydd, gyda Cymry y Dwyrain yn gweld eu teyrngarwch yn gorwedd dros Glawdd Offa.

Rhaid osgoi senario tebyg. Ennill gyda dadl ddeallusol sydd angen, a derbyn fod pobl ag ofn geidwadol afresymol i newid. Mae hi'n broses hir. Yn y pendraw bydd hi'n fwy llesol i ni fel cenedl i baratoi am y 'slog' hir na disgwyl daeargryn gwleidyddol i newid pethau.

Ie i 13.2+ felly, ond refferendwm - na. Lle bod yna gamddealltwriaeth, pe bai yno refferendwm, yna yn naturiol byddwn i'n dadlau o Blaid mwy o rym ac yn anog pobl i ddweud IE, ond hyd yma does dim refferendwm, a 'dwy ddim yn gweld y dylid fod yna un.

'Steady as she goes.'

1 Sylwadau:

Ar September 16, 2004 at 2:09 PM, meddai Blogger Mabon...

Ers i mi bostio hwn mae yna drafodaeth wedi dechrau datblygu am fy sylwadau ar wefan drafod maes-e (www.maes-e.com).

Er mwyn ymhelaethu ychydig, rhag ofn fod camddealltwriaeth, dyma ychwanegu i esbonio yn well fy nghredo:
Fi'n deall sut mae asgell gwrth Gymreig y Blaid Lafur yn mynd i edrych arno.

Mae beth mae Richard yn gynnig yn amlwg yn profi nad yw'r Cynulliad fel ag y mae yn ddigon.
Pe bai Cymru yn barod i gymryd hynny ymlaen, gret, ond mae arna i ofn, er fod Cymru fel cenedl yn barod, nad yw nifer o fewn Cymru yn barod. Yn hynny o beth, i mi, os yw'n golygu aros ychydig mwy o flynyddoedd, iawn.
Fi'n derbyn fod yna elfennau o fewn Cymru, (Llew Smith eto ai debyg) na fydd byth yn barod i dderbyn mwy o ddatganoli. Ond deinosoriaid y'n nhw. Mae'n rhaid i ni nawr ymgymryd a dadl resymegol genedlaethol i ennill pobl drosodd fydd yn uno'r genedl.

Os mai derbyn 13.2+ Rhodri Morgan yw hynny, yna mae'n bris werth ei dalu.

Gobaith nifer o fewn Llafur yw prynnu amser, ac mai sop yw 13.2+ i dawelu'r lleisiau o blaid datganoli oddi fewn i LLafur. Ond, yn y ffordd wy'n gweld pethau ar y foment, y gwir yw erbyn 2011 y bydd y ddadl o blaid datganoli wedi ei hennill, bydd e wedi mynd yn rhy bell i'r adain gwrth ddatganoli ac erbyn hynny bydd e'n fait accompli - byddan nhw'n methu troi nol. Bydd y broses yn rhy bell lawr y lein. Wedyn mater bach iawn fydd ymgorffori cynnigion Richard yn llawn, a cam bach fydd hi i newid y teitl i Senedd, yn lle ymroi, fel wedes i, i ryfel cartref ar y pwnc 7 mlynedd o flaen llaw

Fi'n deall sut mae asgell gwrth Gymreig y Blaid Lafur yn mynd i edrych arno.

Mae beth mae Richard yn gynnig yn amlwg yn profi nad yw'r Cynulliad fel ag y mae yn ddigon.
Pe bai Cymru yn barod i gymryd hynny ymlaen, gret, ond mae arna i ofn, er fod Cymru fel cenedl yn barod, nad yw nifer o fewn Cymru yn barod. Yn hynny o beth, i mi, os yw'n golygu aros ychydig mwy o flynyddoedd, iawn.
Fi'n derbyn fod yna elfennau o fewn Cymru, (Llew Smith eto ai debyg) na fydd byth yn barod i dderbyn mwy o ddatganoli. Ond deinosoriaid y'n nhw. Mae'n rhaid i ni nawr ymgymryd a dadl resymegol genedlaethol i ennill pobl drosodd fydd yn uno'r genedl.

Os mai derbyn 13.2+ Rhodri Morgan yw hynny, yna mae'n bris werth ei dalu.

Gobaith nifer o fewn Llafur yw prynnu amser, ac mai sop yw 13.2+ i dawelu'r lleisiau o blaid datganoli oddi fewn i LLafur. Ond, yn y ffordd wy'n gweld pethau ar y foment, y gwir yw erbyn 2011 y bydd y ddadl o blaid datganoli wedi ei hennill, bydd e wedi mynd yn rhy bell i'r adain gwrth ddatganoli ac erbyn hynny bydd e'n fait accompli - byddan nhw'n methu troi nol. Bydd y broses yn rhy bell lawr y lein. Wedyn mater bach iawn fydd ymgorffori cynnigion Richard yn llawn, a cam bach fydd hi i newid y teitl i Senedd, yn lle ymroi, fel wedes i, i ryfel cartref ar y pwnc 7 mlynedd o flaen llaw

Fi'n derbyn ar y foment mod i yn fodlon rhoi lot (gormod?) o raff i Rhodri Morgan yma, a fod y gwydyr yn hanner llawn - fi'n gweld e'n bositif. Efallai ymhen misoedd/blynyddoedd y bydda i'n sinigaidd am yr holl beth a gall pobl ddweud "wedes i wrtho ti!", ond tan hynny - fel gyda dysgu - dylid stico gyda'r mwyaf araf yn ein plith ermwyn fod pawb yn symud i'r un cyfeiriad.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top