Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

26.8.04

Ymgyrch Adam yn cynnig gobaith i Lafur llawr-gwlad?

O'r diwedd mae rhywun wedi cael y gyts i ddod a'r holl dystiolaeth am gelwyddau Blair ynghyd a'u cyhoeddu nhw ochr yn ochr a'r gwir.

Dyna mae Adam Price, AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi ei wneud trwy gomisiynnu adroddiad gan ddau ysgolhaug o Gaergrawnt a Birkbeck.

Mae nifer ohonom wedi dadlau yn gyson fod Blair wedi 'ymestyn y gwir' a 'chamarwain' - ac wedi dweud hynny yn gyhoeddus, ac wedi cyhoeddu ar y we y gwahanol gelwyddau a ddywedodd e. I unrhywun oedd a synnwyr cyffredin doedd tystiolaeth ymchwiliadau Hutton a Butler ddim yn cyd-fynd o gwbl a honiadau Tony Blair yn y Senedd. Roedd hi'n un peth i ni ar y cyrion waeddu hynny hyd nes ein bod ni'n groch, ond peth arall oedd hi i gael cydnabyddiaeth o hyn. Ceisiodd sawl AS ofyn cwestiynnau am hyn yn y Senedd, ond roeddynt yn cael eu wfftio gyda'r 'rebuttal' fod pob cwestiwn wedi cael ei ateb yn yr ymchwiliadau a fod y Llywodraeth - a Blair - wedi cael eu darganfod yn ddieuog.

Efallai'n wir fod pob cwestiwn wedi eu hateb yn yr ymchwiliadau - ond nid dyna oedd y dyfarniadau!

Felly mae clywed fod yr adroddiad yma wedi ei wneud yn casglu'r holl dystiolaeth ynghyd yn rhywbeth mawr iw groesawi.

Mae oleia 11 AS nawr am geisio 'impeacho' Blair. Ychydig iawn o obaith sydd mae'n debyg, ond mae'n gorfodi Irac yn ol ar yr agenda eto ac yn gorfodi Blair i gyfiawnhau ei gamarwain.

Ys dywed Adam Price mewn sawl erthygl heddiw - ac fel y soniodd un cyfranwr mewn erthygl yn Barn rhai misoedd yn ol - mae hyn yn mynd i graidd dmocratiaeth. Pwy hawl sydd gan Blair i fynd i ryfel a lladd degau o filoedd o bobl ddiniwed yn Irac i gyflwyno democratiaeth yno tra'n amlwg yn anwybyddu democratiaeth yma?

Mae'r llywodraeth yn ceisio honni mai stynt yw'r cwbwl. Efallai yn wir, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni mae'n rhaid cael stynts o'r fath i gyrraedd y gwir. Yr unig reswm mae LLafur yn gwrthwynebu'r stynt arbennig yma yw am ei fod yn bygwth eu Prif Weinidog nhw. Dyali Llafur beidio a bod mor amddiffynol a derbyn nad yw Blair yn cynrychioli eu hegwyddorion na'u daliadau nhw bellach a chefnogi ymgyrch Adam Price a'r gweddill. Mae Llafur wedi bod yn rhy brysur yn sicrhau eu bod nhw'n cadw mewn grym ar drail eu daliadau sylfaenol nhw. Falle fod hyn yn stynt sydd am ddenu mwy o bleidleisiau i blaid wleidyddol arall ar drail y Blaid Lafur. Ond a yw hynny mewn gwirionedd yn bris mor uchel i dalu am Brif Weinidog sydd wedi troi Llafur i fewn i fod yn geidwadol (g fach)? Yn bris werth ei dalu i ddod a'r milwyr yn ol a dwyn pwysau ar llywodraeth adain dde eithafol America i stopio eu hymgyrch am ymerodraeth fyd-eang?

Mae'n bryd i aelodau llafur ail-asesu a naill ai ymadael neu ail-gipio eu plaid yn ol. Pa bynnag un mae'n rhaid i llafur ar lawr gw;ad ddatgan eu cefnogaeth i ymgyrch traws bleidiol Adam Price i ennill yn ol hunan-barch a'u plaid. Os ddim yna bydd y Blaid Lafur yn marw gyda'r genhedlaeth hyn sy'n bodoli heddiw - a hynny o few yr ugain mlynedd nesaf.

Erthyglau yn y wasg heddiw:
Gwefan 'Impeach Blair'
Al Jazeera
BBC
Western Mail
Reuters
Telegraph
Scotsman
Erthygl Adam Price AS yn y Guardian
Scotsman arall
Erthygl y Guardian
ePolitix
Independent Online - De Affrica
Mathaba.Net, Affrica
Herald, yr Alban

1 Sylwadau:

Ar August 27, 2004 at 8:58 AM, meddai Blogger Mabon...

Diolch yn fawr Ifan. Falch bo ti'n mwynhau.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top