Yr Olympics, Llwyddiant, a Paula fach (druan)
Bu i Paula Radcliffe fethu yn eu hymgais i ennill medal aur (neu unrhyw fedal) yn y ras Marathon yn y gemau olympaidd eleni. Mae hi wedi bod yn wylofain ar sgriniau y teledu ac yn y wasg, ac mae'r cyfryngau oll yn neud mor a mynydd o'r ffaith iddi golli a fod rhaid fod yna rywbeth mawr yn bod.
Wel, does gennyf i, am un, ddim cydymdeimlad ati.
Wel, a bod yn deg, dyw hwnna ddim yn hollol wir, mae 'da fi y mymryn llei o gydymdeimlad.
Yn gyntaf oll mae sawl person arall wedi colli yn y gemau olympaidd yma - o'r miloedd sy'n cystadlu bach iawn yw'r rhai sy'n llwyddo (yn amlwg), ond does dim ffys a nonsens yn cael ei wneud o'r rhai yma. Y gwir amdani yw fod ar y cyfryngau Saesnig gyfrifoldeb am ymddygiad a chyflwr Paula Radcliffe. Yn yr un modd a thim Pel-Droed Lloegr yn y bencampwriaeth Ewropeaidd eleni, rhoddwyd gymaint o bwysau a disgwyliadau ar gefn Paula Radcliffe fel eu fod wedi mynd yn un peth iw phen hi ac yn y pendraw wedi bod yn ormod iddi ymdopi.
Ond hefyd, bellach mae arian mawr iw wneud allan o chwaraeon - o bob math. Mae Paula Radcliffe wedi gwneud ei ffortiwn gyda nawdd allan o'i dawn i redeg. Yn arianol yn sicr mae hi wedi bod ar eu hennill. Nawr, beryg y bydd hi ar ei cholled yn sylweddol. Mae hyn yn codi cwestiwn arall am gymhelliad yr athletwyr yma i gymryd rhan - ond fel y soniais cwestiwn arall yw honno.
Ond mae'n clymu mewn i'r holl sgandal sydd wedi bod yn y gemau yma, gyda beirniad yn cael eu diddymu am fethu a marcio yn gywir yn dilyn cwynion, a 'gwledydd' yn gosod fwy a mwy o gwynion. Yn y bon arian yw gwraidd hyn. Mae'r athletwyr a'r gwledydd yn eu tro ar eu hennill yn sylweddol, yn arianol, o gael llyddiant yn y gemau olympaidd. Dyna pam fod y diwydiant cyffuriau yn gwneud gystal allan o'r athletwyr. Mae llwyddiant yn creu cyfoeth.
Mae syniad gwreiddiol y gemau olympaidd yn un iw edmygu - sef mai cystadleuwyr amatur ddylai gymryd rhan. Byddai hyn yn gwneud gemau yn decach ac yn adlewyrchu gwir ddawn person heb y disgwyliadau anioddefol a ddaw yn sgil arian mawr a sylw'r cyfryngau. Yn anffodus mae'r ysbryd yma wedi diflannu'n llwyr, ac mae arna i ofn y daw llwyddiant gemau olympaidd 2004 - yn fwy nag unrhyw gemau arall sydd wedi bod - yn sgil cyfoeth.
Does ond angen edrych ar y tabl medalau i weld hyn gyda'r UDA, Awstralia, Ffrainc, Yr Almaen, Prydain a gwledydd y Gorllewin yn gyson ar y brig. Pwynt amlg, ond un sydd angen cadw mewn cof.
Felly mae'n flin gennyf Paula, ond mae'r hinsawdd a'r amgylchiadau sydd ohoni yn golygu nad oes gennyf llawer o gydymdeimlad at dy fethiant eleni. Os wyt ti am feuo rhywun beua'r cyfryngau a'r cwmniau ariangar oedd yn gobeithio gwneud elw anferthol ar gefn dy ddawn a'th waith caled.
1 Sylwadau:
Fel mae'n digwydd, dyna wnes i cyn ysgrifennu'r darn.
Fel mae'n sefyll ar y foment dyma'r tabl:
1 UDA 28 31 24 83
2 Tsheina 25 17 12 54
3 Awstralia 16 11 16 43
4 Rwsia 15 21 24 60
5 Siapan 15 9 10 34
6 Yr Almaen 12 13 17 42
7 Ffrainc 10 7 10 27
8 Yr Eidal 9 7 8 24
9 Rwmania 8 5 5 18
10 Yr Iwcran 8 4 7 19
11 De Corea7 10 6 23
12 'Prydain' 7 8 10 25
O'r deuddeg ar y brig mae 9 yn wledydd blaenllaw y gorllewin.
O 8 gwlad y G8 (Ffrainc; America; Prydain; Siapan; Yr Almaen; Yr Eidal; Canada; Rwsia) dim ond Canada sydd ddim yn y 12 uchaf (rhif 22), ac mae economi Tsheina yn tyfu 8% yn fwy nag un yr UDA yn flynyddol ac am fod yn economi mwy na un yr UDA erbyn canol y ganrif.
Yr eithriadau yw Rwmania, yr Iwcran ac o bosib De Corea - er fod De Corea yn wlad tra chyfoethog sydd a diwydiannau llewyrchus.
Mae posib dadlau fod yr Iwcran a Rwmania yn eithriadau oherwydd eu doniau traddodiadol ym meysydd codi pwysau a gymnasteg.
Ychwanegu sylw
<< Adref