Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

19.8.04

Lefel A - odi e rhy hawdd?

Mae canlyniadau Lefel A 2004 wedi cael eu rhyddhau heddiw, a - sioc horyr - ma nhw'n well nag erioed o'r blaen.

Mae nifer o wleidyddion yn cwyno am hyn, ond am unweth wy'n credu mod i'n cydymdeimlo a'r Llywodraeth. Dim ond 'cocyn hitio' arall yw hwn i wleidyddion y gwrth bleidiau gael sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Yr hyn sydd wedi nghynddeuriogi i heddiw yw'r gri nad yw'r canlyniadau yn deg am y gall disgybl nawr ail-eistedd arholiad ermwyn llwyddo!

Beth sy'n bod ar bobl? Onid dyna yw pwynt addysg, sef i wella person fel bod person yn gallu rhoi cyfraniad fwy adeiladol i gymdeithas? Os yw rhywun yn llwyddo mewn arholiad yr ail dro dyw hynny ddim am fod yr arholiad yn haws, ond yn hytrach am fod yr ymgeisydd wedi gweithio'n galetach i lwyddo. Mae'r wybodaeth y bu ir ymgeisydd ddysgu am, yn y pendraw, fod o fudd cymdeithasol.

Serch hynny 'wy yn cytuno a'r ddadl am bynciau megis 'Seicoleg' neu'r 'Gyfraith' neu 'astudiaethau'r cyfryngau' ayb. Y cyhuddiad yw fod y pynciau yma yn haws - alla i ddim barnu achos sut mae mesur a ydyn nhw'n haws na Ffiseg, dyweder, neu Celf. Ond wy yn ofni fod disgyblion nawr yn gwneud penderfyniad penodol i astudio pynciau o'r fath gan fod yna ganfyddiad fod yna fwy o arian iw wneud yn y meusydd yma. Cefnogi'r y ddamcaniaeth hyn drwy'r niferoedd sy'n mynd i astudio y pynciau yma yn y Brifysgol. Y broblem yw fod disyblion yn arbenigo yn llawer rhy gynnar mewn maes penodol. Mae angen gwybodaeth llawer mwy eang ar bobl ermwyn gallu cyfrannu yn llawn i gymdeithas ac i ddatblygu yn llawn fel person. Mae'r pynciau craidd yn golygu fo rhywun yn magu llu o sgiliau gwahanol fydd yn eu cynorthwyo ym mha bynnag maes y byddan nhw'n ddewis ar gyfer eu gyrfa(oedd).

Ond, yr unig ffordd i allu profi os yw'r arholiadau yn mynd yn haws yw i gyflwyno rhai hen bapurau Lefel A i'r disgyblion presenol. O gyfartaledd y canlyniadau dylid gellir rhoi barn cywirach.

Yr hyn sydd i resynnu serch hynny yw nad yw disgyblion bellach yn cael yr addysg sylfaenol - yn cael y 'basics' yn iawn. Dyna sydd yn rhaid canolbwyntio arno, ac yn hynny o beth mae angen ymgyrchu i gael y pynciau craidd yn ol i'r brig, a heb roi gymaint o bwys ar fanteision gyrfaol ac arianol meusydd arbennig.

2 Sylwadau:

Ar August 23, 2004 at 10:47 AM, meddai Blogger Bratiaith...

Dwi ddim yn anghytuno nad yw'r pethau sylfaenol yn bwysig, ond dwi heb weld eu bod nhw'n cael eu anwybyddu. Mae hen bobl wastad yn cwyno "dyw'r ifainc ddim cystgal ag oeddwn i".

Ond prif bwnc sy'n fy ngwylltio fi ydy'r Lafurwyr (er fy mod i'n aelod o hyd) yn llyncu agenda'r "elit ffug" sef y sawl sydd am cadw'r gwobrau i'w hunain; megis caergrawnt a rhydychen yn dweud "allen ni ddim gweld pwy sy'n well" pryd mae canlyniadau yn profi bod wedi cael yr un fath o hyforddiant sydd ar gael yn Eton ayyb gallai plant cyffredin yn cyrraedd y safon anfodol.

Cadw elit yn sefyll gan codi muriau yn erbyn pawb cyffredin ydyn nhw. Mae'n dileu un or sawl peth oedd yn dda am Lywodraeth Toni Blêr.

Mae Egalité yn marw.

 
Ar August 27, 2004 at 9:02 AM, meddai Blogger Mabon...

Ddigon gwir Bratiaith.
Mae Llywodraeth Blair wedi gwella safon byw pobl ym Mhrydain ar gyfartaledd, gyda llai yn byw mewn tlodi, ond ar y pegwn arall mae'r cyfoethog wedi mynd yn gyfoethocach. Mae Blair fel petai yn awyddus i gadw'r rhwygiadau cymdeithasol sydd wedi bodoli ers yr oes ffiwdal...at ba ddiben dwy ddim yn gwybod, mwy na fod 'perpetuato' hyn yn ei gadw ef a'r Blaid 'Lafur'(!) mewn grym.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top