Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

18.8.04

Chavez v Bush

Ymddengys fel petai Hugo Chavez wedi cael ei ethol yn ol fel arlywydd Venezuela.

Nawr, wy ddim yn gwbod rhyw lawer iawn am Hugo Chavez na gwleidyddiaeth Venezuela, ond mi fentra i y dylen ni groesawi'r fuddigoliaeth yma cyn ei feirinadu.

Yn gyntaf oll os yw George W. Bush yn anhapus gyda'r canlyniad, mae'n awgrymu'n gryf i fi - nad sydd y cefnogwr mwyaf brwd o Bush! - fod yn rhaid fod yna ddaioni yn perthyn i Chavez, wedi'r cyfan mae Bush a llywodraethau asgell Dde America dim ond erioed wedi cefnogi pethau fyddau o fudd a mantais iddyn nhw a gwrthwynebu pethau nad oedd am ddod a budd iddyn nhw - agwedd tra hunanol a ffiaidd.

O'r hyn yr wyf i yn wybod am Chavez mae e wedi neud peth wmbreth o ddaioni i Venezuela - yn enwedig mwy na'i ragfleunydd, yr arlywydd llwgr Perez oedd yn danfon ei fyddin i saethu trueiniaid diniwed y wlad.

Yn ol yr hyn a ddarllenais mae gan Venezuela y pedwerydd 'reserves' mwya o olew yn y byd. Mae Chevez wedi troi elw yr olew yn ol i goffrau cenedlaethol Venezuela yn hytrach nag i bocedi yr ychydig. Mae e hefyd wedi stopo'r llywodraeth rhag noddi ysgolion preifat i'r cyfoethog, ac wedi llwyddo i ledaenu tipyn yn fwy o gyfoeth i drigolion Venezuela.

Mae'n bryd nawr i lywodraeth America - a'r elfennau hunanol ariangar yn Venezuela - barchu canlyniad y refferendwm. Gobeithio y gall Chavez, Lula ym Mrasil a pfrif weinidog newydd yr Ariannin allu gydweithio i wella sefyllfa'r cyfandir hynod hwnnw.

4 Sylwadau:

Ar August 18, 2004 at 9:35 PM, meddai Blogger Ifan Morgan Jones...

Yn esgidiau Bush mi fyswn i'n defnyddio'r CIA i gefnogi grwp chwyldroadol yn gudd, a disodli'r un a oedd wedi ei ethol yn ddemocrataidd fel hynny, gan roi un arall a fysai'n fwy agored i ddiddordebau'r Americaniaid yn ei le. Bydd cyfryngau gwael y gorllewin ddim yn rhedeg y stori, ac erbyn i bobl y byd gael gwbod y gwir mi fydd hi'n rhu hwyr i wneud dim am y peth. Llwyddiant!

 
Ar August 23, 2004 at 3:59 PM, meddai Blogger Mabon...

Neges i ddiweddaru ar yr hyn sy'n digwydd mae'r
Carter Centre a'r Organisation of American States heb ddarganfod unrhyw gafflo yn yr etholiadau, ac fod canlyniad Chavez felly yn gywir.

Mae'r Carter Centre yn rhoi adroddiad yma, ond dyw e ddim lan ar wefan yr OAS eto.

 
Ar August 23, 2004 at 4:13 PM, meddai Blogger Mabon...

This comment has been removed by a blog administrator.

 
Ar August 23, 2004 at 4:14 PM, meddai Blogger Mabon...

This comment has been removed by a blog administrator.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top