Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

16.8.04

Chwilwyr Lloches yng Nghymru

Fi'n ymddiheurio o'r dechre fod hwn yn eich cyrraedd yn hwyr, ond mae'n well fod e'n cael ei ddweud nawr na'n cael ei anwybyddu.

Mae'r Swyddfa Gartref (cartref pwy, sy'n fater arall) wedi rhoi chwilwyr lloches yng ngharchardau Caerdydd a'r Parc, Penybont.

Mae'r bobl yma wedi dioddef erledigaeth, gorthrwm a dioddefaint y tu hwnt i'n crybwyll ni yn eu mam wlad, ac yn syml yn gofyn am loches a'r hawl i fyw heb cael eu herlyd.

Beth mae'n llywodraeth 'gwaraidd' ni yn wneud? Eu rhoi nhw mewn carchardai a'i trin nhw fel troseddwyr!

Mae hyn yn warthus. Gallwn ni ddim honni i fod yn ddiwylliant gwaraidd os ydyn ni'n caniatau i hyn fynd ymlaen.

Yr un peth wy wastad yn fy atgoff o'n hun gyda sefyllfa chwilwyr lloches yw hanes Steve Biko, ac yn yr achos hyn yn fwy arbennig Donald Woods, yn ystod cyfnod apartheid De Affrica. Chwiliwr lloches oedd y newyddiadurwr Donald Woods. Petai e heb gael lloches (gan Lesotho a Phrydain) yna byddai'r hanes am frwydyr dioddefaint Biko a gorthrwm Negroaid De Affrica heb gael ei gyhoeddi. Chwaraeodd Woods gymaint o ran yn y frwydyr i waredu apartheid. (Gwnaed ffilm gwych gyda Denzel Washington a Kevin Kline, Cry Freedom yn 1987).

Mae'n rhaid i'r llywodraeth ddechrau trin ymchwilwyr lloches gyda'r parch haeddianol. Ma pobl fel fi yn ffodus yma ar y foment (gwyn, dosbarth canol, addysgiedig) ond mater o amser fydd hi tan ein bod ni yn mynd i fynd ar ofyn gwlad arall am gymorth (enwedig gyda Blunckett wrth y llyw).

Dylai'r llywodraeth ryddhau'r chwilwyr lloches ac yn lle dechrau holi cwestiynau yn rhyngwladol pam eu bod nhw am gael lloches. Dyna lle mae dechrau.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top