Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

12.8.04

Ann Clwyd a deg darn arian

Mae arna i ofn fod Ann Clwyd, AS Cwm Cynon (Llafur) yn amlwg wedi gwerthu ei daliadau am ddeg darn arian.

Heb fynd i ormod o fanylder nawr, ond mi roedd gyda fi lot o barch ati hi fel gwleidydd o sylwedd - un oedd a daliadau ac egwyddorion. Wrth gefnogi rhyfel Irac ai chyfiawnhau ar sail helpu'r Cwrdiaid (yn bennaf) ma hi wedi dangos ei hunan i fod yn anifail rhyfel heb ddim daliadau bellach ond yr uchelgais i fod yn llwyddiannus. Mae hi wedi cael eu gwneud yn 'special envoy' i Blair yn Irac a ddoe cyhoeddwyd eu bod hi am fod ar y 'Privy Council'.

Dim ots am y degau o filoedd o bobl ddiniwed sydd wedi cael eu lladd yn Irac. Dim ots am y miloedd ar filoedd o Gwrdiaid sydd yn cael eu lladd yn Nhwrci. Dim ots am y miliynnau sydd yn dioddef o amgylch y byd oherwydd polisiau Blair a'r Blaid Lafur sydd mewn llywodraeth i werthu arfau ac ariannu gwledydd fel Uzbekistan, Indonesia, China, Israel ayb.

Rhagrithwyr oll.

Mae'n rhaid fod Ann Clwyd AS/Special Envoy to Iraq/Privy Councillor yn ddall i honni fod pobl Irac bellach yn byw eu bywydau yn normal ac yn hapus (honiadau mae hi wedi eu gwneud yn y cyfryngau yn ddiweddar ac yn yr Eistwddfod yr wythnos diwetha). Mae'r lladd a'r ymosodiadau gan superpower yr UDA yn parhau.

Celwyddau.

Am ragor:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/3549702.stm
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/3557446.stm
http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004/maes/nodiadau-sad.shtml
http://www.iraqbodycount.net/

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top