Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

12.8.04

£12,000 i fod yn ddeintydd

Yn ol y newyddion r y we nawr bydd Bwrdd Iechyd Ceredigion yn rhoi £2,500 i 3 myfyrwyr y flwyddyn i fod yn ddeintyddion yng Ngheredigion.

Hen bryd fod rhywun yn neud rhywbeth.

Mae nifer o bobl yng Ngheredigion heb hyd yn oed ddeintydd - dim ots ym mhle, achos fod gormod o restr aros.

Mae hyn yn wir i radde llai am fannau eraill hefyd.

Mae'r broblem yn gorwedd yn sylfaenol gyda Jane Hutt yn y Cynulliad.
Ma ddi wedi gwario miloedd ar filoedd ar ail-strwythuro a chael byrddau iechyd lleol - dim mod i wedi gweld unrhyw wahaniaeth yn y ffordd ma' pethe'n cael eu rhedeg - mae'r rhestrau aros yr un mor hir (os nad yn hwy), ac wy dal heb ddeintydd - felly mae'n neud y pethe rhwydd, di-bwys, lle mae posib gweld canlyniadau fory, hynny yw datgan fod ail-strwythuro, y diwrnod wedyn papurau penawd newydd! Waw. Gwych...not.

Ma ishe amynedd arni i fynd ati a rhoi buddiannau hir-dymor iechyd trigolion Cymru yn gyntaf.

Mae'n dda fod bwrdd iechyd Ceredigion yn gwneud rhwbeth. Y cwestiwn yw sut mae'n cael ei ariannu, ac a fydd yr arian yn gorfod dod o bot arall. Os hynny, pwy sydd yn mynd i golli mas, achos yn ddi-os ma rhywun am golli mas. Ma'n rhaid i Hutt gael eu blaenoriaethau yn iawn a rhoi arian lle mae ei angen yn lle ar swyddfeydd newydd a phapurau penawd newydd!

2 Sylwadau:

Ar August 13, 2004 at 5:35 PM, meddai Blogger Nwdls...

Croeso i'r rhithfro Pyndit.
Braf dy weld di'n cychwyn blog oedd ei wir angen a dwi'n edrych mlaen i gadw golwg arno fo.
Hwyl

 
Ar August 16, 2004 at 9:54 AM, meddai Blogger Mabon...

Diolch Rhodri.

Fi'n cyfadde, bydd 'na ogwydd pendant i'r sylwadau y bydda i'n bostio - a fel wy'n gweud, mi fydd yn dod yn amlycach y mwya o negeseuon y bostia i (os nad yw'n amlwg yn barod!), ond gobeitho y neith e anog peth trafodaeth, a falle cael pobl i weithredu ar rhai pethau hefyd.

Diolch eto.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top