Gradd Coleg Di-Werth
Mae erthygl yn y Western Mail heddiw yn dweud fod ymchwil yn dangos fod 3 o bob 10 o raddedigion yn 'bored' yn gwaith, a fod 27% yn ystyried newid gyrfaoedd.
Darllen yr erthygl.
Dyw hwn ddim yn newyddion newydd, ond mae e yn gwud lot am bolisi y llywodraeth o geisio cael 50% o bobl ifanc i fynychu Prifysgol.
Mae'r rhai a ymatebodd i'r holiadur yn dweud nad yw eu swyddi yn gwneud y defnydd mwya o'i sgiliau.
Ond peth pryderus arall yw fod y TTA (Teacher Training Agency) yn awyddus fod y bobl ym yn newid eu gyrfaoedd i fod yn athrawon.
Ar y pwynt ola yn gynta - mae'n cymryd math arbennig o berson i fod yn athro. Mae swydd athro yn un o'r swyddi pwysica y gall rhywun ei wneud, a does dim pawb a'r gallu i fod yn athro. Dylai rhywun ddim mynd mewn i ddysgu am nad oes dim byd gwell ganddo/i i wneud. Galwedigaeth penodol ydyw.
O ran polisi y llywodraeth, mae'n ffwlbri llwyr. Dylaid prifysgol fod yn lle i berffeithio dawn arbennig fydd o fudd i gymdeithas. Dyna pam y dylai'r gymdeithas (drwy'r llywodraeth) ariannu addysg prifysgol. Os yw rhywnu am wneud cwrs galwedigaethol, yna gwneidr hynny. Mae swyddi galwedigaethol yn holl bwysig i ddyfodol cymdeithas iach a gwaraidd, ac ni ddylid eu hystyried yn is na swyddi sydd angen 'gradd' ar unrhyw gyfri - ond mae anghenion gwahanol i swyddi o'r fath. Nid swyddi academaidd y'n nhw ond rhai sydd yn dod - yn benna - o ysgol brofiad - prentisiaeth.
Mae'n rhaid cael gwared ar y syniad fod statws yn perthyn i addysg Brifysgol. Mae graddedigion yn cyfrannu at ddyfodol cymdeithas yn yr un modd ag y mae'r rhai hynny sydd heb gael addysg Brifysgol. Unwaith r'yn ni'n cael gwared o'r stigma yma, wedyn bydd dim angen i'r llywodraeth 'so-called' sosialaidd yma gael y 'chip' amlwg yma syd ar eu hysgwydd ai hysgogodd i ddatgan fod angen i bawb gael addysg Brifysgol. Dylai addysg Brifysgol ddim adlewyrchu statws cymdeithasol, ac yn bersonol dyw e ddim i fi. Na chwaith cyflog. Mae ar bawb ddyletswydd cymdeithasol - beth bynnag ddywedodd Magi Thatcher am gymdeithas!
2 Sylwadau:
Dwi'n cytuno'n llwyr, ac os ga'i fod yn ddadleuol am eiliad, dwi'n credu fod y gradd wedi ei is-raddio pan dwi'n gweld rhai o'r graddedigion syd yn gweithio gyda fi!
Does gen i ddim gradd, ond mae profiad a gwaith caled wedi fy ngalluogi i gyrraedd fy swydd presennol.
Mi gesh i creisis braidd efo fy ngradd ar ddiwedd yr ail flwyddyn. Teimlo ei fod gyfystyr a lwmp o gachu wiwar. Ond, mi benderfynais, gan fy mod yno, i fi ei orffen a cahel y dam thing (lwcus i fi fod geni;r opsiwn, doedd hi ddim yn rhy ddrud i adael coleg wedi dwy flynedd bryd hynny...ond dadl arall ydi honno).
Erbyn hyn, 6 mlynedd yn ddiweddarach, dwi'n teimlo ei fod wedi bod o werth ac na fuaswn i'n gneud be dwi'n gneud rwan hebddo. Efallai mai dim ond sbardun oedd o i fi, ac taw rwan dwi'n "dysgu go-iawn", ond dyna fo, mae lot mwy na jest addysg ar bwnc i gael o radd.
Ond wedi dweud hyn, dwi'n credu erbyn hyn fod angen gwneud MA er mwyn cael sicrwydd swydd neu gyflog da, ac hyd yn oed wedyn does na ddim gwarant o hyn, oherwydd fod rhaid gwneud MA eithaf practical.
Os gai ddweud un peth dwi'n credu y dylen ni gael system Baccalaureat yng Nghymru i roi ystod enhagach o bynciau ar safon lefel A. dyw a wyr, mae angen mwy o astudio athroniaeth arnon ni.
Ychwanegu sylw
<< Adref