Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

23.8.04

Sbaen i groesawi mewnfudwyr

Mae'n edrych fel petai llywodraeth sosialaidd newydd Sbaen yn dechrau gweithredu yn bositif - neu oleia ar fater o fewnfudwyr.

Mae Sbaen yn derbyn dros 1/4 o holl fewnfudwyr anghyfreithlon Ewrop, a bu i'r llywodraeth asgell dde oedd mewn grym tan yn ddiweddar ddilyn trywydd tebyg iawn i'r hyn y mae'r Eidal yn parhau i wneud - sef danfon eu llynges milwrol mas i orfodi'r mewnfudwyr oddi ar eu harfordiroedd. Mae hyn wedi arwain at farwolaeth cannoedd o bobl.

Tra fo gwneud rhywbeth o'r fath yn ymddangos fel ateb syml a hawdd i broblem ddofn, mae'n weithred hollol anfoesol.

Mae cwynion gan y wasg asgell dde o hyd fod mewnfudwyr anghyfreithlon yn derbyn 'hand-outs' o filoedd o bunnoedd ac yn dwyn swyddi. Mae honiadau o'r fath yn sarhaus ac anghyfrifol. Mae rhannau helaethaf o fewnfudwyr anghyfreithlon yn gorfod gweithio yn y gwledydd gorllewinol am y nesaf peth i ddim o arian ac mewn amgylchiadau ofnadwy (rhaid ond edrych ar gasglwyr cocos bae Morcambe yn ddiweddar am brawf o hyn).

Bydd llywodraeth Sbaen yn awr yn rhoi trwydded waith i'r rhai hynny sydd eisioes yn gweithio yno ac yn caniatau mynediad i'r rhai sydd yn gallu profi'r angen.

Mae hyn yn sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn.

Yn wir, mewn twist eironig, mae'r Alban, er enghraifft, yn gweld eu poblogaeth yn heneiddio yn ddybryd gyda llai o bobl ar gael i weithio. Mae angen pobl ar lefydd fel yr Alban. Yr yn sydd angen yw cydnabyddiaeth fod pobl yn byw mewn amgylchiadau erchyll, a ymgais gwirioneddol i ddatrys hyn. Pe bai'r llywodraeth yn cynyddu eu harian i wledydd y trydydd byd ac yn anghofio dyled barhaol y gwledydd yma, y tebygrwydd yw y byddai safon byw yn y gwledydd ar gwella a byddai pobl ddim yn gorfod gwario eu ceiniogau olaf ar fewnfudo i wledydd mwy cyfoethog.

Gall Sbaen ddim gwneud hyn ar eu pennau eu hunen.

Mae'r Gweinidog Mewnfudo Sbaen, Consuelo Rumi, eisioes wedi cyhuddo'r Undeb Ewropeaidd o ddiffyg arweiniad yn hyn. Mae'n rhaid i weddill Ewrop wrando a chymryd sylw a gwella ar gam bach Sbaen.

Erthygl yn y Guardian heddiw

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top