Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

23.8.04

Trethu etifeddiaeth

Mae'n ymddangos heddiw fel petai pwysau yn cael ei roi ar y Canghellor, Gordon Brown, i drethu'r cyfoethog yn fwy.

Os mae dyma fyddai'r achos, yna byddai hynny iw groesawi, ond nid yw pethau mor syml a hynny. Treth ychwanegol ar etifeddiaeth person byddai hwn (inheritance tax), gyda etifedd sydd yn werth £263,000 - £288,000 yn cael ei drethu ar 22%, £288-£763,000 yn 40% a 50% i bopeth uwchben hynny. Yn fras wy'n cydymdeimlo a hyn ac yn cyd-fynd ag e, mae'n gwestiwn serch hynny, os mae'r egwyddor yw rhannu cyfoeth yn well, pam nad yw'r cyfoethog yma yn talu fwy o drethu tra eu bod nhw'n fyw na fod yr etifedd yn talu'r treth.

Yr hyn sydd angen eu ddatrys yw'r sefyllfa afresymol sydd yn bodoli ble mai 2% o'r boblogaeth (cyfoethog...iawn) yn berchen ar 1/3 rhan o gyfoeth 'Prydain' (ffigyrau llywodraeth Prydain). Os yw'r llywodraeth o ddifri am daclo'r broblem o anghyfartalwch yna, dyma'r mathau o ffigyrau y mae'n rhaid eu newid.

Mae'n warthus serch hynny fod y llywodraeth yn ofni digio'r 2% yma o'r boblogaeth. Parthed yr adroddiad am y treth ar etifeddiaeth, mae siaradwr swyddogol Rhif 10 Stryd Downing wedi gwadu fod a wnelo Blair a'r Llywodraeth unrhywbeth a'r adroddiad, ac mae un o nifer o adroddiadau a syniadau a geir yn gyson ydyw. Mae'r Ceidwadwyr bondigrybwyll wedi manteisio ar hyn. Ond pam ddylai 2% o'r boblogaeth fedru 'dictato' polisi llywodraeth? Arian. Mae eu cyfoeth aruthrol yn gallu prynnu dylanwad, sydd yn dylanwadu ar bolisi y llywodraeth (rhaid ond cofio am Ecclestone a halibalw hysybysebu tobaco yn 'Formula 1' i weld dylanwad arian ar y llywodraeth).

Tra fod trefn yn parhau lle gall y cyfoethog reoli y wasg a'r cyfryngau, bydd yna ddim cydraddoldeb. Mae hyn yn swnio fel dadl a sefyllfa o droad y ganrif ddiwetha, ond y gwir anffodus yw nad yw pethau mewn gwirionedd wedi newid, dim ond fod y cyfoethog wedi mynd yn fwy cyfrwys.


Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top