Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

19.8.04

Ymgyrch y Mis

Mi fydda i'n ceisio cyflwyno ymgyrch newydd bob mis o nawr ymlaen.

Pan fydd yr ymgyrch yn dechrau fe fyddaf yn postio neges yma, ac yna fe fydd yn ymddangos ar dop chwith y dudalen flaen am weddill y mis.

Pan fydd ymgyrch newydd yn cychwyn bydd yr hen un yn dal i fodoli yn yr archifau fel neges a bostiwyd.

Ymgyrch Mis Awst yw rhyddhau carcahrorion Guantanamo gan fyny'r hawl iddyn nhw am gyfiawnder; yr hawl i gal achos llys teg; yr hawl i fod yn ddieuog tan y profir i'r gwrthwyneb. arwyddwch y ddeiseb yma. oddi ar wefan Comisiwn Hawliau Dynol Guantanamo.

2 Sylwadau:

Ar August 23, 2004 at 6:12 PM, meddai Blogger Nic...

...ymddangos ar dop chwith y dudalenEin chwith ni, neu dy chwith di? ;-)

Mae'n debyg bod y ddeiseb yna wedi cael ei chyflwyno yn barod, gyda'r llaw.

 
Ar August 27, 2004 at 8:55 AM, meddai Blogger Mabon...

Wps.
Diolch Nic. Acshiwali ar y top dde bydd yr ymgyrch yn ymddangos - dde fi a dde chi.
Gan ein bod ni mor agos i ddiwedd y mis fydda i'n cadw'r ymgyrch yma yno tan i un newydd gael ei bostio fi nesa. Falle bydd e'n cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith rhywrai - os yw pobl yn ymweld a'r Blog hynny yw!

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top