Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

25.8.04

Adroddiad Abu Ghraib - conspirasi Bush?

Felly, mae adroddiad gan bwyllgor o gynghorwyr y Pentagon wedi dod i'r casgliad fod ar y Pentagon gyfrifoldeb am yr ymddygiad gwarthus yng ngharchar Abu Ghraib yn America.

Mae'n beth da fod hyn wedi cael ei amlygu yn hyn o beth - gall pobl waeddu o'r cyrion hyd nes eu bod nhw biws, ond yn anffodus nid yw'r cyhoedd am gael eu argyhoeddu tan fod adroddiad gan bobl (hunan)bwysig yn yn cael ei gyhoeddi (am mai dyna sut mae'r cyfryngau yn gweithio).

Mae dyfodol Rumsfeld yn y fantol felly. Er fod yr adroddiad yn dweud nad yw umsfeld ei hunan yn gyfrifol, mae'r adroddiad yn dweud fod yna gyfrifoldeb yn gorwedd gyda'r rheolwyr.

There is no evidence of a policy of abuse promulgated by senior officials or military authorities...(yn ddiweddarach) There was indirect responsibility at higher levels in that the weaknesses at Abu Ghraib were well known, and corrective action could have been taken and should have been taken


I fi mae hwn yn amlwg yn gosod y bai ar Rumsfeld. Pan oe'n i'n gweithio yn yr Undeb Myfyrwyr fe gethon ni wybod yn syth byn fod cyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch yn gorwedd, yn y pendraw, ar fy sgwyddau i fel llywydd - dim gwahaniaeth os nad oeddwn i'n uniongyrchol gyfrifol am y peth - mae hyn yn wir ymhron pob maes busnes. Roedd y Pentagon yn gwybod am y camweddau; gellir fod wedi gwneud rhywbeth amdanyn nh; ond gwnaethpwyd ddim. Ta-ta Rumsfeld ddylai hi fod felly.

Ond wedyn doedd dim disgwyl i'r milwyr yno wybod dim gwell, gan yn un peth mae America yn cyfiawnhau camdrin carcharorion Guantanamo gan honni nad carcharorion rhyfel ydyn nhw. Mae cynsail yn cael ei osod gan America i gyfiawnhau camdrin. Roedd milwyr Abu Ghraib ond yn dilyn arferiad y fyddin Americanaidd felly.

Yn ogystal a hyn beth arall gellir ei ddisgwyl allan o ryfel? Dyw RHYFEL ddim yn beth teg - mae pobl - di-niwed gan amla - yn cael eu lladd ac n dioddef - a hynny yn fwriadol. Os yw un byddin am gael gwybod cyfrinachau'r fyddin arall mae nhw am ddefnyddio pob dull posib.

Y sioc mawr mewn gwirionedd gyda erchyllterau Abu Ghraib yw eu bod nhw wedi cael eu datgelu o gwbwl! Mae pethau o'r fath yn digwydd - ac wedi digwyd - ym mhob rhyfel, dim ond mai'r collwyr sy'n cael eu pardduo am fod yn filain gan y buddugwyr.

Ond ar bwynt arall, fi'n cofio darllen erthygl o America yn un o rifynnau gymharol ddiweddar y New Statesman. Yno datgelodd y colofnydd fod dwrch yn y balid weriniaethol wedi datgelu sawl peth iddo fydd yn gwneud y frwydyr am yr arlywyddiaeth yn un mochedd. Un o'r pethau hynny oedd y byddau ymgyrch i bardduo enw John Kerry drwy godi amheuon am un o'u galonnau porffor. Mae hyn wrthi'n digwydd nawr. Beth sydd a wnelo hyn a Rumsfeld ag Abu Ghraib, medde chi. Wel un o'r pethau eraill a nodwyd oedd fod Donald Rumsfeld yn 'liability' i ymgyrch George W. Bush, yn enwedig gyda fod Edwards, 'running mate' Kerry mor boblogaidd. Mae ymgyrch Bush am gael gwared o Rumsfeld felly, ac am ddangos fod Bush, yn debyg i Blair, yn credu yn y rhyfel Irac fel achos dyngarol ond yn derbyn fod camgymeriadau wedi eu gwneud nad oedd e yn gyfrifol amdanyn nhw. Mae hyn felly yn gyfle perffaith i Bush i ddatrys hyn oll mas, hynny yw fod Rumsfeld yn cymryd y can am gamweddau Abu Ghraib a dangos eu fod yn ddyn da yn y bon yn gweithredu er lles pobl eraill (!).

Sinicaidd? Odw.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top