Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

1.9.04

Palestiniaid eithafol yn bomio Israel

Ymddengys fel petai eithafwyr Palesteinaidd wedi dechrau bomio yn Israel eto yn dilyn pum mis o frwydro mewnol. Mae'n nhw'n honni mai mewn ymateb i lofruddiaeth y llywodraeth Israeli i arweinwyr Hamas ddechrau eleni yw hyn.

Mae'n drist iawn gweld fod lladd wedi ail ddechrau yno o du Palesteina.

Neges fer yw hon serch hynny i groesawi un o'r ychydig ddatganiadau call yr wyf wedi glywed oddi wrth Yasser Arafat ers tro byd.

The Palestinian interest requires a stop to harming all civilians so as not to give Israel a pretext to continue its agression against our people.


Ac meddai'r Prif Weinidog Palesteinaidd:

Killing civilians, whether from the Palestinian side or the Israeli side, will achieve nothing except hatred and more enmity and therefore we condemn that strongly.


Wy ddim yn credu fod y datganiadau yma - yn enwedig un Arafat - wedi cael hanner digon o sylw.

Dylai pawb eisiau gweld y Dwyrain Canol yn gweithredu tuag at ddatrysiad heddychlon i'r drafferth yno. Gyda bod gymaint o hanes i'r trafferthion, ymddengys yn rhesymegol i ddisgwyl y gellir gweithredu i gael dwy bobloedd yn byw ochr yn ochr - y 'two state solution'.

Mae Arafat hyd nes yn ddiweddar wedi bod yn cynrychioli yr elfennau mwyaf eithafol ym Mhalesteina, dyna pam, felly, bod ei ddatganiad mor holl bwysig.

Nid ydyw o ddiddordeb i'r elfennau mwyaf eithafol ym Mhalesteina na Israel i gael heddwch yno am y byddai hyn yn arwain, yn anatod, at y 'two state solution'. Mae'r Palesteiniaid mwyaf eithafol yn datgan yn groch eu bod nhw am ddiddymu Israel yn llwyr ac adfeddianu'r holl dir yno, a'r Israelis mwyaf eithafol yn dweud yr un peth am Balesteina. Nid ydyw, felly, o ddiddordeb iddynt i weithio am fan canol. Mae Arafat, fel y soniais sydd wedi bod yn cynrychioli elfennau eithafol Palesteina, nawr yn datgan - i bob pwrpas - eto, ei fod yn barod i weithio i gyrraedd sefyllfa lle gall Israelis a Phalesteiniaid fyw ochr wrth ochr.

Da iawn Arafat yn hyn o beth. Mae'n bwysig i'r cynrychiolwyr rhyngwladol gydnabod hyn.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top