Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

31.8.04

Y tywydd ac amaethyddiaeth

Yn dilyn y glaw ofnadwy sydd wedi bod gyda ni yng Nghymru dros yr Haf, mae'r cwestiwn wedi codi eto a yw ffermio bellach yn economiadd ac a ddylwn ni barhau a ffermio yma, gan ei fod yn bosib mewnforio y rhan fwya o gig a chnydau erbyn hyn.

I fi mae'n rhaid cyfaddef mae hyn yn ymateb cul a thymor byr.

Unwaith eto ry'n ni'n gweld popeth yn cael eu fesur yn nhermau arian. Does dim gwerth yn cael ei roi ar ddiwylliant a iaith. Un o gyfraniadau mwyaf amaethyddiaeth i Gymru yw parhad yr iaith a'n diwylliant ni yma.

Yn sicr mae yna ormod o ffermio wedi digwydd ac wedi arwain at ddirywiad yng nghefn gwlad - gyda nifer o gynefinoedd rhai o adar a bywyd gwyllt cynhenid y wlad naill ai'n diflannu neu o dan fygythiad. Ond doth hyn yn sgil y gor wario a wnaed yn y byd amaethyddol yn dilyn y Rhyfel Byd. Does dim man canol wedi bod. Mae diwydiant a datblygiad technoleg yn sicr wedi bod yn andwyol i amaethyddiaet, yn yr ystyr fod peiriannau wedi cymryd lle gwaith dynol syd d yn ei dro wedi golygu crebachu yn y cymunedau amaethyddol a dirywiad yn llawer o gymunedau hynafol Cymru (o brofiad personol rhaid ond edrych ar Islawr Dre ger Dolgellau, neu cwm Cywarch rhwng Dinas Mawddwy a Llanymawddwy i weld dylanwad hyn).

Ond mae'n rhaid i wlad gael y cynnyrch sylfaenol i fedru bod yn hunan-gynhaliol.

Mae'n arwydd clir o nam y cof sydd gan bobl wrth ein bod ni eleni yn son am gynnyrch grawn Cymru yn dioddef tra fo'r Iwcran, er enghraifft, yn orlawn o'r stwff. Cwta flwyddyn yn ol roedd Dwyrain Ewrop yn dioddf llifogydd anferthol gyda pris bara yn uwch nag erioed am fod y gwenith yno wedi ei ddifrodi, tra fod Ynysoedd Prydain yn danboeth. y gwir yw nad yw'r tymhorau bellach mor gyson ag oedden nhw. Mae'r drwg y mae dynoliaeth wedi ei wneud trwy or ddiwydiannu'r blaned yn dangos, ac ry'm ni'n talu'r pris amdano. Mae'n rhaid i ni dderbyn cyfrifoldeb am hyn a derbyn fod newid ar droed.

O ystyried hynny, gallwn ni ddim fod yn or ddibynol ar gymryd yn ganiataol y gallwn fewnforio popeth. Mae pob cenedl bellach yn dioddef tywydd eithafol, ac mae dyletswydd arnom ni i gdweithio i sicrhau fod pawb yn cael digon o fwyd, ddim manteisio ar ein sefyllfa ffodus, achos pwy a wyr, y flwyddyn olynol byddwn ni yn yr un twll - fel sydd wedi ei brofi yn ystod y blynyddoedd diweddar

Gwefan yn trafod dyfodol hinsawdd y byd

2 Sylwadau:

Ar September 3, 2004 at 7:16 PM, meddai Blogger Nwdls...

Bydd ty ffarm Llwyniarth yn Islaw'r Dre ar werth rwan 'fyd cyn bo hir. Bu i'r perchennog, Llew, farw tua 2 flynedd nol a does neb i gymryd drosodd y ty, ddim ond y tir. Mae' o'n dy hyfryd, hyfryd, ond mae'n debyg taw Saeson brynith o.

 
Ar September 14, 2004 at 3:44 PM, meddai Blogger Mabon...

Odi. Ma hanes Islaw'r Dre yn un trist iawn.

Mae'n ardal odidog o Gymru - un o ardalodd hyfryta y wlad.

Ma nheulu i wedi bod yn ffarmo yn Islaw'r Dre ers cenedlaethau, ond bellach dim ond f'eyrth sydd ar ol, a mae e bellach wedi rhoi'r gore i ffarmo gan gael rhywun mewn i ofalu am y fferm.

Bydd e ddim byw am byth, a wedyn pwy a yr beth fydd yn digwydd.

Ma Islaw'r Dre nawr yn anialwch godidog dienaid sydd yn tynnu ei anadl ola.

Odd dege o ffermydd yno, yn llawn teuluoedd a gweision a morwynion a phawb yn helpu eu gilydd, a chnydau o bob math yn cael eu tyfu yno. Nawr dim ond defaid ac ambell i dda du Cymreig sydd yno - a'r National Trust a Thir Gofal., gyda'r adeilade i gyd yn mynd yn fyrddunod.

Trist iawn. Feri sad.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top