Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

3.9.04

bwrddyriaithgate



Wel, mae controfersi Bwrdd yr Iaith yn dal i rygni ymlaen - a da o beth yw hynny!

I chwi sydd ddim yn gwybod, nol ddechrau Awst roedd y Cynulliad yn apwynti cadeirydd newydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg - swydd deuddydd yr wythnos am £31,000.

Llafurwr oedd yn y swydd, Rhodri Williams, ond mae e wedi symud ymlaen i OFCOM.

Beth bynnag mae pryder afresymol y Blaid Lafur am berthynas y Gymraeg a chendelaetholdeb, a fod Plaid Cymru yn dal monopoli ar faterion yn ymwneud a'r iaith, a fod polisiau Llafur yn eithriadol o wan parthed datblygu, cynnal a chadw'r iaith, yn gadael y Blaid Lafur, a bellach yn fwy difrifol y Llywodraeth Lafur, yn agored i gael eu beirniadu. Yn hynny o beth mae nhw'n despret i gadw rheolaeth o Fwrdd yr Iaith. Dyn nhw ddim yn rhy awyddus i gael Bwrdd y mae'n nhw'n tybio sydd yn naturiol Bleidiol (h.y. Plaid Cymru) yn ei beirniadu yn gyson am eu diffygion a methianau.

Roedd yn rhaid - ar bob cyfri - sicrhau mae rhywun oedd oliea a yn cydymdeimlo a Llafur oedd yn cael y swydd eto.

Beth bynnag, aethpwyd ati i ffurfio panel penodi - traws bleidiol. Y bwriad oedd eu bod nhw yn cynnal cyfweliadau ac yn eu marcio gan rhoi nodiadau i gyfiawnhau y marciau. Penodwyd menyw o'r enw Meri Huws i'r swydd gyda Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg) yn amlwg wrth ei fodd.

Ond byr hoedlog oedd y llawenydd. O fewn dim fe gwynodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru - oedd ar y panel apwyntio - fod y person anghywir wedi cael ei benodi. Dywedodd fod ymgeisydd arall wedi cael 7pwynt a hanner yn fwy na Meri Huws. Aeth y sgandal ymhellach, dywedodd fod Alun Pugh mewn gwirionedd wedi ysgrifennu nodiadau am Meri Huws yn unig, gan beidio a gwneud nodiadau ar gyfer gweddill yr ymgeiswyr. Taflwyd y cyhuddiad mae croniistiaeth oedd hyn am fod Meri Huws...weit ffor it... yn aelod o'r Blaid Lafur!

Wel dyna i ni sioc.

Serch hynny, erbyn heddwi mae'r sgandal wedi mynd yn fwy. Mae'n debyg fod Meri Huws wedi gadael eu gwr dair mlynedd yn ol i gael affer gyda rhyw syrtein Andrew Davies AC (Aelod Cynulliad Llafur a Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth).

Mae hyn oll yn drewi ac mae'n warthus.

Dylai Alun Pugh cael y sach, neu oleia yr asgwrn cefn a hunanbarch i ymddiswyddo am hyn. Dylai Rhodri Morgan hefyd ymddiheurio i'r genedl fod ei gabinet a'r safle a roddir i aelodau cabinet yn cael ei gamddefnyddio i sicrhau fod agenda pleidiol Llafur yn cael ei wthio mewn rol lle na ddylai gwleidyddiaeth bleidiol fynd yn agos ato. Mae dyfodol yr iaith yn amgenach ac yn bwysicach nag unrhyw blaid wleidyddol. Llafur yw'r unig blaid sydd yn gwrthod derbyn hynny ac yn ei drin a dirmyg a sarhad iw ddefnyddio fel teclyn gwleidyddol - a hynny yn unig pan eu bod nhw, yn gyndyn, yn cydnabod bodolaeth yr iaith.

Ysgrifennwch lythyr at Rhodri Morgan yn mynnu diswyddiad Alun Pugh o'r cabinet.

Mae'n siwr y bydd e'n ymateb trwy ddweud fod ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond esgus a thechneg yw hn (un sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml gan Llafur) i brynnu amser a gobeithio y bydd y mater yn cael ei anghofio yn y cyfamser.

Gwarthus.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top