Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

6.9.04

Ymgyrch y Mis - Darfur, Sudan


Ymgyrch Mis Medi yw i ddatrys y drychuneb sydd yn digwydd yn Darfur, Sudan ar y foment.

Mae miliynnau o bobl wedi cael eu herlyd o'u cartrefi ac yn ddi-gartref yn byw mewn amgylchiadau erchyll gyda bygythiad heintiau a diffyg dwr a maeth yn mynd yn waeth o ddydd i ddydd.

Mae i'r holl hanes gefndir cymhleth iawn, ond gyda bod miliynnau o bobl yn blant ac yn henoed hefyd, yn wynebu marwolaeth a dioddefaint, mae'n rhaid gweithredu a gwneud rhywbeth.

Gellir cael cefndir yma ar Crisis Web (International Crisis Group, y Cenhedloedd Unedig).

Mae yna ddwy nod i'r ymgyrch yma felly.

Un yw i gynorthwyo ar fyrder, a'r ffordd rhwydda o wneud hyn yw i gyfrannu'n arianol (gyda Medecins Sans Frontieres yma).

Yn ail, a'r pwysica yn y tymor hir yw ymgyrchu i gael llywodraethau'r byd a'r Cenhedloedd Unedig i weithredu a dwyn pwysau ar lywodraeth Sudan i beidio a chefnogi'r Janjaweed ac i anelu i gael canlyniad positif drwy drafodaeth a heddwch.

Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnig syniadau da am hyn yma , hefyd ar y Blog yma fe ffeindiwch chi linc i wefan i ddanfon ffacs at eich Aelod Seneddol a rhifau cyswllt eich Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Aelod Seneddol Ewropeaidd a Llywodraeth Leol - gallant oll gyfrannu yn yr ymgyrch i ddatrys trallod Sudan.

Unwaith eto, mae hyn yn ymgyrch y dylem ni oll geisio wneud rhywbeth - mae pob peth bach y gallwn ni ei wneud am fod o fydd.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top