Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

29.9.04

Tai Fforddiadwy

Mae'r mater o gael tai fforddiadwy yn gwrthod mynd oddi ar yr agenda wleidyddol - a fel hynny bydd hi tan bo rhywun yn gwneud rhywbeth am y peth.

Mae'n dda gweld fod Cyngor Ceredigion wedi dechrau edrych i fewn i'r drafferth ac wedi mabwysiadu polisi peonodol i geisio ymguprys a'r sefyllfa.

Yr hyn yw'r polisi yw sicrhau y bydd 30% o ddatblygiadau mawr - 10 o dai neu fwy mewn ardaloedd trefol, 5 neu fwy mewn ardaloedd gwledig - yn gorfod bod yn dai fforddiadwy. Hefyd bydd y tai yma ar gael i bobl sydd wedi byw yng Ngheredigion am 10 o'r 20 mlynedd diwethaf, ac nad yw eu cyflogau yn fwy na swm penodol. Bydd hawl gan bobl hen ag anghenion arbennig i gael mynediad i'r farchnad yma a gofalwyr. Does dim diffiniad wedi ei osod o beth YW 'fforddiadwy', dim ond dweud y byddant yn heddlua'r sefyllfa. Bydd tai o dan y cynllun yma yn arod o fewn y cynllun a gofal rheolau pynnu'r Cyngor am byth, a bydd dim hawl gan y tai yma i fod yn ail dai neu i gael eu rhentu allan.

Dyna, oleia, y dealltwriaeth a roddwyd yn y Cambrian News heddiw.

Mae hyn yn gam pwysig cyntaf ymlaen. Mae'n dangos fod yna gydnabyddiaeth oleiaf fod yna broblem ddifrifol yn bodoli. Ond a yw'n ddigon?

Mewn gwirionedd dyw'r cynllun ddim mor radical ag y mae'r Cyngor yn ceisio eu werthu i fod. Mae deddf eisioes yn bodoli sy'n golygu y gall y Cyngor fynnu fod canrhan benodol o dai sy'n cael eu datblygu fod yn rhai fforddiadwy - in cash or in kind mae'r rheol yn ddweud, sef y gall datblygwyr dalu swm o arian yn lle datblygu tai fforddiadwy gyda'r arian hynny yn mynd i daclo y broblem. Y gwir yw nad yw'r polisi yn ddigon a dyw e ddim yn ateb y broblem yn llawn o bell ffordd. Nid bai y Cyngor yw hynny, ond yn hytrach diffyg gweithgarwch o ran y Cynulliad - Andrew Davies y Gweinidog Datblygu Economaidd yn benodol.

Mewn egwyddor mae'r polisi yn un da. Ond yr hyn mae'n ddweud yw mai dim ond y tlotaf yn ein cymdeithas fydd o fewn y diffiniad i gael mynediad i'r farchnad newydd yma o dai. Tra fo hynny yn gywir ac yn iawn, nid yw'n ateb y cwestiwn sylfaenol pam bo nhw'n dlawd na chwaith yn ceisio darganfod ateb i hynny.

Y peryg yw fod y garfan yma o gymdeithas am adael y gymuned beth bynnag i gael gwell cyflogaeth mewn swyddi ar hyd coridor yr M4 (yn y de a'r Gorllewin oleia).

Gan siarad o brofiad mae sawl person yr wyf yn adnabod bellach yn byw neu ar fin symud i Gaerdydd i gael gwell swyddi gyda chyflogau gwell, economic migrants yw'r rhain. Dyma bobl sydd yn cyfrannu at eu cymdeithasau lleol, yn aelodau o gorau, timoedd pel-droed, cymdeithasau ac ati.

Wedi a dweud hyn, peidiwch a nghamddeall i - mae sicrhau fod tai fforddiadwy i'r tlotaf yn gam da. Jest gobeithio y bydd e mewn gwirionedd yn ymateb yr angen, ac nad yr union garfan yma sydd yn araf bach ymadael a'u cymunedau. Fi'n ofni taw e.

Beth sydd angen mewn gwirionedd yw'r i'r Llywodraeth yn ganolog ddechrau gyda rheoli'r farchnad dai. Byddai'n well gyda fi i weld y grym yn cael ei ddatganoli yn llwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yna eu ddatganoli ymhellach i'r Llywodraethau Lleol, fel eu bod nhw yn gallu ymateb i'r argyfyngau lleol.

Dylai fod yna ryw fath o 'cap' yn cael ei roi ar werth tai - ar sliding scale os oes raid, fel nad yw gwerth tai yn mynd yn rhy uchel. Yn unol a hynny, efallai y dylid edrych ar osod sliding scale arall, un amser, gyda gwerthu'r tai. Os nad oes neb lleol (diffiniad i fyny i Lywodraeth leol) yn prynnu'r ty o fewn 6 mis yna caiff rhywun o'r tu allan i 'lleol' ei brynnu. Gellir cylpysu hyn gyda gosod gymaint o 'hurdles' ar allu pobl cyfoethog i brynnu ail dai, neu drethu ail dai yn ddifrifol.

Wrth gwrs mae gwendidau amlwg i gynllun o'r fath yn syth. Bydd gwerthwr yn gwrthod gwerthu am 6 mis nes fod rhywun cyfoethog a'r gallu i dalu crocbris yn ymddangos, ond fel y soniais gellir rhoi cap arno, hefyd dyw gwerthwr ddim am 'hongian o gwmpas yn rhy hir cyn gwerthu ty, gyda gymaint o gostau ar dy arall. Hefyd yn debyg i dreth ar gyflog a chynnig Plaid Cymru a'r Democratiad Rhyddfrydol am dreth Cyngor, gellir edrych ar bosibilrwydd o roi gwahanol lefelau o dreth yn unol a gallu rhywun i dalu (byddai hyn i fewn ym maint y tu beth bynnag).

Beth wy'n ddarlunio uchod yw syniadau sydd wedi dod i mi wrth deipio; gwahanol enghreifftiau o geisio edrych ar y broblem o ddifri gan feddwl am ffyrdd o'u ddatrys - rhywbeth nad yw'r Llyworaeth bresenol yn San Steffan na Bae Caerdydd yn ei wneud.

Oes cynnigion gyda chi?

3 Sylwadau:

Ar September 29, 2004 at 2:22 PM, meddai Blogger Rhys Wynne...

Mae'r synaidau uchod i gyd yn swnio'n rhesymol i mi, ond does gan y gwleidyddion ddim yr asgwrn cefn i weithredu unrhywbeth gyda diffiniad 'lleol' fel arfer. Yr awgrymiad dwi'n credu'n gryf ynddo yw'r trethu uchel. Nid yn unig i leihau ar dai haf, ond i'w wneud yn 'anoddach' gwneud elw/bywoliaeth o brynnu mwy o mwy o dai ar gyfer eu rhentu. Dyma yn fy marn i yw'r bygythiad mwyaf i gyflenwad digonol o dai fforddiadwy boed yng nghefn gwlad neu ganol ddinas. Dyma engrhaifft clasurol o arian yn gwneud arian, ac yn amlach na dim tai bychain 2 lofft yw'r ffefryn ar gyfer ar gyfer pobl sy'n prynnu er mwyn gosod, sef yr uion dai mae cyplau/teuluoedd ifanc yn cystadlu am danynt. Mae'n olygfa cyffredin nawr pan mae stad o dai/fflatiau'n cael eu adeiladu, i weld arwydd 'Gwerthwyd' arnynt cyn iddynt gael eu gorffen hyd yn oed, a o fewn wythnosau i'r tai cael eu cwbwlhau, mae rhesi o arwyddion 'Ar osod' yn ymddangos.
Dylid trethu ail dai mor uchel (byddwn yn awgrymu o leiaf teg gawith yn uwch na'r arfer) fel y bydd bron yn amhosib iddo fod yn economiadd bod yn berchen mwy nag un ty.

 
Ar September 29, 2004 at 2:42 PM, meddai Blogger Aled...

Dwi'n cytuno efo Rhys mai trethu yw'r ffordd hawsaf o gwmpas hyn. Does neb angen fwy nag un ty, felly dylid trethu ail a thrydydd dai un uwch, gan mai luxuries ydynt yn y bon. Byddwn yn awgrymu dwbl y dreth ar gyfer ail dy, tair gwaith y dreth ar gyfer y trydydd ac ati.

Mae'n bechod garw fod llywodraethau lleol mor amharod i weithredu polisiau sydd a slant 'lleol' yn arbennig yma yng Nghymru ble mae'r pwnc iaith (nad wyt ti wedi'w grybwyll o gwbl Pyndit) yn aml yn gefndir dadleuol i unrhyw drafodaeth. Dwi'n meddwl fod llawer o fai ar y Cynulliad am hyn, ac y byddai cynghorau yn fwy parod i weithredu'n gadarnhaol petai arweiniad yn dod gan y Cynulliad - ar hyn o bryd maent yn rhy nerfus ac yn ofni caiff unrhyw bolisi ei darro i lawr neu ei 'dynny i mewn' gan y Cynulliad. Gweler yr helynt gydag ymgais Parc Cenedlaethol Penfro i sicrhau tai lleol er enghraifft.

Tydw i ddim yn siwr chwaith ble mae cyfraith Ewropeaidd gyda'r hawliau sylfaenol o symydiad rhwydd pobl, nwyddau a chyfalaf yn dod mewn i hyn. Er mai er mwyn i bobl allu symyd ar draws ffiniau rhyngwladol y lluniwyd y ddedf, mae'r un mor berthnasol i rywyn sydd am symyd o Abertawe i Llanfarian.

 
Ar September 29, 2004 at 3:42 PM, meddai Blogger Mabon...

Cytuno gyda'r ddau ohon chi.
Ti'n iawn Barfog, bu i mi anghofio a son am y ffactor ieithyddol holl bwysig yn y cyfraniad uchod.
Os alla i gyfiawnhau hyn trwy ddweud mod i'n meddwl o flan yn hunan wrth deipo, ac roedd yna fwriad yn wreiddiol i son am yr iaith, gan fod hynny yn ffactor ychwanegol holl bwysig sydd yn andwyo pethau gymaint yn fwy yma...ond ath e ar goll wrth i'r meddwl dicio drosodd tra'n teipio (sori!).

Ond, mae'r iaith yn ffactor sydd yn cael ei anwybyddu yn rhy aml. Mae fel petai fod yna gystadleuaeth yn bodoli gyda pobl yn dweud fod problemau yn waeth yn y Lake District etc, ond mae hynny yn diystyrru'r iaith yn llwyr Yn yr n modd, tra mod i'n son uchod am gyfeillion sydd yn aelodau o glybiau lleol ayb, maen nhw hefyd, yn holl bwysig, yn gallu ar y Gymraeg. Does dim angen dweud wedyn beth yw effaith gadael wedyn.

Oes rhywun wedi risgo edrych ar wefan Madzia uchod????!!!

wwweerrrr...

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top