Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

16.9.04

Hela Cadnoid

Wel, dyna beth oedd smonach yn y Senedd ddoe.

Ymladd milain yn mynd ymlaen yn Parliament Square, a phrotestwyr yn torri i fewn i lawr y Ty Cyffredin - a'r cwbwl oherwydd deddf am hela cadnoi.

Wel wir, beth nesa gwedwch.

Mae'r lobi o blaid hela yn dadlau fod pethau amgenach gan y llywodraeth i boeni amdano na hela - megis Irac, y wasanaeth iechyd, addysg ayb. Os felly, yna yn sicr mae rhain yn bethau y dylai'r lobi o blaid hela boeni amdan yn ogystal. Y cwestwin yw tybed a welwn ni'r bobl oedd yn Parlaiment Square yn gorymdeithio drwy Llundain pam fydd y llywodraeth am fomio miloedd o bobl diniwed y tro nesaf? Dyna her.

Ond i fod yn fwy difrifol, mae'n rhaid i mi ddangos rhuddyn o gydymdeimlad at y protestwyr o blaid hela.

Yn bersonol reoddwn i'n cyd-fynd i raddau helaeth iawn a'r Middle Way Group.

Roe'n nhw'n cefnogi cynnig Alun Michael, y gweinidog a chyfrifoldeb dros y mater, sef caniayau hela o dan drwydded.

Mae hyn yn gwneud synnwyr llwyr. Os yw ffermwyr yn gallu prfoi yr angen am helfa yna byddan nhw'n cael eu trwyddedi i gynnal helfa yno. Mae hyn yn gwneud synnwyr yn enwedig mewn ardaloedd mynyddog twristaidd fel Cymru, lle na fyddai siawns o gael pelets neu fwled strae. Mae hefyd yn golygu fod hela yn weithred o anghenrhaid, ac nid yn weithred o hwyl (mater arall yw hi os yw rhywun sy'n gwneud y weithred o anghenrhaid am eu bont yn mwynhau). Mae cynsail amlwg i hyn. Yr hyn yr ydym yn wneud yn y gymdeithas orllewinol, oleia, pan yn wynebu 'vermin' a 'pests' yw eu lladd. Rhaid ond edrych ar lygod ffyrnig, cockroaches, cynrhon ayb. Mae cadno yn aml iawn yn cwympo i fewn i'r categori yma.

Beth sydd wedi nghythruddo i serch hynny yw sut fod y ddadl wedi gallu mynd o'r lefel resymegol yma?

Cafodd yr Aelodau Seneddol Llafur ddigon o gyfleon i fynychu'r dadleuon yn San Steffan a chlywed rhesymau - nid dim ond 'dadl' - gan bobl llawer mwy addysgiedig ar y pwnc. Ond eto fe ddewison nhw ei wrthod. Mae'r Llywodraeth Lafur yma yn cael ei chydnabod fel y llywodraeth gyda'r dealltwriath orau o'r wasg sydd erioed wedi bod, ond eto mae nhw wedi methu'n llwyr a chyfleu bwrdwn cynnig deddf Alun Michael. Methu'n llwyr!

Pam? Sut gyda'r holl adnoddau a'r dealltwriaeth honiedig yma bo nh wedi methu a chyfleu mater gymharol syml.

Ar yr un pryd rwy wedi nghythruddo gyda'r Countryside Alliance a'r ffordd y mae nhw wedi cael nid yn unig rheoli'r agenda ond wedi llywio'r dadleuon i fod yn rhai fwriadol emosiynol - 'y wlad yn erbyn y ddinas', 'ffordd o fyw', 'bywoliaeth' ayb. Petai nhw hefyd wedi taflu eu adnoddau y tu ol i gefnogi cynnig gwreiddiol Alun Michael byddai dim o hyn wedi digwydd. Byddai ffordd o fyw y mwyafrif llethol o helwyr wedi cael eu cadw yn syml gan fod yn angen am helfeydd (oleia yng Nghymru).

Mae hyn, mae arna i ofn, yn drewi, ac yn awgrymu fod gan y ddwy ochr agena cudd. Ar yr un llaw roedd y Llywodraeth (neu Llafur) am wedl diweddu hela doed a ddelo - hyd yn oed fod yna ddadleuon teg o blaid cadw rhai helfeydd, doedd Llafur ddim am wrando ac am ddileu hela. 'Hangover' o ddyddiau brwydrau dosbarth cymdeithasol y tirfeddianwyr yw hyn, a dim arall - brwydyr ydd i bob pwrpas wedi ei hennill ar derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei blaenoriaethau nhw yn anghywir. Mae nhw wedi troi eu cefnnau ar egwyddorion sylfaenol megis preifateiddio a mynd i ryfel yn erbyn cyd-ddyn, ond yn cadw at syniadaeth 'arcaic' nad sy'n bodoli.

Ac yna'r 'Countryside Alliance' - ymddengys nad oedd diddordeb ganddyn nhw i gefnogi cynnig Michael. Pam? Fel y soniais mae yna ddadleuon teg i gadw helfeydd yn rhannau helaethaf Cymru. Ond efallai ddim yn Lloegr. Mae'n wybyddus fod rhai helfeydd yn magu cadnoi ermwyn eu hela. Mae 'ranches' preifat agored enfawr Lloegr hefyd yn gallu defnyddio 'lampo' a saethu yn llawer mwy effeithiol. Felly 'blood sport' ydys yn rhannau helaeth o Loegr a dim arall, ac mae nhw'n gwybod hynny ac yn gwybod na fyddant yn cael trwydded. Gan mai'r ffermwyr yma yw arianwyr pennaf y Cuntryside Alliance, roedd y CA am gynnal eu diddordebau hwy.

Yr hyn sy'n anffodus yw mai'r rhai sydd wedi cael eu llyncu i fewn i hyn i gyd yw'r mwyaf anghenus o ran hela, a'r mwyaf 'gullible' o Aelodau Seneddol.



http://www.themiddlewaygroup.org.uk/policies.html

4 Sylwadau:

Ar September 16, 2004 at 4:17 PM, meddai Blogger Mabon...

Os gaf i ychwanegu hefyd.

Mae'n ddiddorol gweld mai dadl nifer oedd yn y gwrthdystiadau o blaid hela ddoe oedd fod nifer o bobl am golli swyddii.

Yn naturiol, nid yw hyn i gael ei groesawi, ac, o gymryd fod y ddeddf am ddigwydd, dylai'r llywodraeth wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau fod y bobl yma yn cael bywoliaeth teilwng ar ol rhwystro hela.

Ond mae hyn yn wir am bob deddf y mae'r llywodraeth yn wneud sydd yn golygu colli swyddi.

Roedd hyn yn wir pan gaeewyd y pyllau glo, ac ym mhob penerfyniad a wna'r llywodraeth.

Yr hyn sy'n gwylltio rhywun yw fod pobl yn barod i brotestio pan ei fod yn effeithio arnyn nhw'n uniongyrchol.

Pan fydd y llywodraeth yn cael gwared o'r miloedd o swyddi yn y sector gyhoeddus o fewn y blynyddoedd nesaf, a welwn ni'r protestwyr yma allan ar y stryd mewn solidarity?

Egwyddor yw egwyddor.

 
Ar September 16, 2004 at 4:35 PM, meddai Blogger Nwdls...

Sylwadau treiddgar fel arfer Pyndit. Dwi'n joio darllen dy flog di'n ofnadwy gyda llaw, gwych wir.

 
Ar September 17, 2004 at 10:35 AM, meddai Blogger Mabon...

Diolch yn garedig iawn Rhodri.

 
Ar September 17, 2004 at 11:34 AM, meddai Blogger Aled...

Ble roedd y cyn-lowyr a'r gweithwyr sector gyhoeddus wythnos yma?

Mwynhau dy flog hefyd.

 

Ychwanegu sylw

<< Adref

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top