Mae adroddiad ar dudalen flaen y
Western Mail heddiw yn dweud fod Andrew Davies a llywodraeth y cynulliad am ddatblygu hewl i'r de o'r M4 fydd yn rhyddhau'r draffordd o'r holl draffig. Mae'r awdurdodau yn ochrau Casnewydd yn ddlau fod yr M4 bron a chyrraedd ei uchafswm o ran niferoedd ceir all deithio arno. Mae'r CBI a'r siambr fasnach yng Nghaerdydd ill dau wedi bod yn gwthio'n galed am hyn yn dadlau fod y draffordd fel ag y mae yn golygu nad yw'r ardal yn cael ei llawn botensial o fuddsoddiad, oherwydd y traffig. Bydd y cwbwl yn costio tua £360 miliwn yn ol y son, gydag awgrym mai datblyiad preifat fyddai a bod ffi yn mynd i gael ei godi am deithio ar yr hewl.
Galla i ddim a chefnogi menter o'r fath.
Yn un peth, yn wleidyddol, mae'n datblygu'r cyswllt rhwng 'De Cymru' a 'De Orllewin Lloegr a Llundain'. Gallau olygu mwy o fuddsoddi yn yr ardal hynny o Gymru, ond ar yr un pryd mae'n golygu mwy o deithio i'r cyfeiriad arall hefyd - mwy o allfudo. Rhaid i ni dderbyn mae'r ardal hynna o Gymru yw ardal cyfoethocaf ein cenedl - yn arianol - a byddi datblygu gwell cyswllt a Lloegr ond yn golygu fod yr arian yn mynd allan o Gymru. Mae'n rhaid datblygu ffyrdd o gadw arian yng Nghymru. Mae hyn yn mynd yn erbyn hynny.
Gwnaeth yr IWA (Sefydliad Materion Cymru/Instituet of Welsh Affairs) adroddiad nol yn 2000 oedd yn awgrymu datblygu cysylltiadau rhwng y de a'r gogledd. Roedd yr adroddiad yn awgrymu gwella rhai rhannau o'r ffyrdd trwy'r canolbarth ac ar hyd y Mers - ymestyn o ddwy lon i dair, datblygu llefydd pasio ac ati. Byddai hyn, medden nhw, yn torri amser teithio o'r de i'r gogledd o tua awr, ac yn costio £123miliwn.
Roedd Friends of the Earth Cymru yn dadlau yn erbyn syniad yr IWA ac yn dadlau am yr angen i wella y Traws Cambria, datblygu trafnidiaeth dren, ynghyd a gwella rhannau o'r heolydd. Roedd eu hawgrymiadau nhw yn costio £60 miliwn.
Ystyriwch petai ni yn datblygu gwell cyswllt rhwng y de a'r gogledd. Byddai hyn yn caniatau gwell buddsoddi mewnol yn ein cenedl - byddai cwmniau yn gallu tendro yn haws am waith ym mhen arall y wlad, ac yn fwy cystadleuol am fod y trafndaiaeth yn well. Byddai hyn yn defnyddio llafur lleol, adnoddau lleol - hyn oll a mwy, ond yn sylfaenol bwysig byddai arian yn aros yng Nghymru ac yn cylchdroi yma. r hyn mae datblygu 'releif road' i'r M4 am wneud yw caniatau cwmniau mawr Lloegr i dendro am waith cyhoeddus a phreifat yn Ne Cymru (lle mae'r holl datblygiadau). Dyna sy'n digwydd nawr, a does dim peynt i ni esgus nagefe - bydd hyn ond yn gwneud hynny'n waeth.
Oes, mae yna 'congestion' difrifol yn rhannau o'r M4. Mae'n amlygu ar adegau penodol o'r diwrno gan fwyaf - cyn 9 y bore ac wedi 5 yr hwyr. Traffig gwaith ydyw. Mae'n ymddangos wrth fod degau o filoed o bobl yn teithio i ac oddi o'r gwaith oll yn gyrru eu car eu hunen. Mae'n rhaid buddsoddi felly mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus - system o dacsi's gwaith yn cael ei rhan ariannau gan y cwmni, neu'r siambr fusnes lleol, neu'r llywodraeth leol, a'r gwithiwr/aig eu hunen. Datblygu'r rheilffyrdd lleol yno a sicrhau fod trennau yn mynd bob tua chwarter awr rhwng Caerdydd a Chasnewydd os oes raid fel bo gweithwyr yn gallu teithio yn gyfleus.
Nid euddigedd mo hwn fod rhagor o fuddsoddi yn mynd i'r rhan honno o Gymru - er fod honna yn ddadl deg syd angen ei chyflwyno - ond mae'n fwy o lawer na hynny. Mae'n golygu ein bod ni unwaith eto yn methu a chydweithio fel cenedl; ein bod ni yn gweld ein dyfodol a llwyddiannau yn gorwedd yn Lloegr; nad oes hyder ynddom ni fel cendel a ffydd yn ein gilydd. Diffyg adnabyddiaeth o'n gilydd sydd wedi datblygu ar hyd y canrifoedd yw hyn. Mae wedi cael eu atgyfnerthu drosodd a throsodd gydar M4 a'r A5, ac mae hyn ond yn datblygu ar hynny.
Byddai datblygu cyswllt, boed yn ffyrdd neu'n reilffyrdd, rhwng y de a'r gogledd dreian pris y 'releif road' yma. Gellir wedyn buddsoddi gweddill yr arian i sicrhau gwell trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr y de ddwyrain fydd yn rhyddhau yr M4.
Adroddiad Friends of the Earth yn ymateb i gynnigion yr IWA yn 2000