Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

21.12.04

Anfoesoldeb Belmarsh

Mae David Blunckett, un o’r Ysgrifenyddion Cartref mwyaf asgell dde yr wyf i’n sicr erioed wedi ei weld, wedi gorfod ymadael a’i swydd.

Mae’r ‘Law Lords’ wedi dyfarnnu fod cadw pobl o dramor fel carcharorion heb ddwyn achos yn eu herbyn am amser amhenodol, a heb ddangos tystiolaeth, yn erbyn eu hawliau dynol, ac yn anghyfreithlon.

Mae Ian Macdonald, QC, wedi ymddiswyddo fel un o’r rhai oedd wedi cael y dyletswydd o gynrychioli’r carcharorion yma, ar y sail fod y gyfraith gwrth-derfysgaidd newydd yma a ddaeth i rym yn 2001 i ganiatau carcharu heb achos yn anghyfreithlon, ac yn erbyn ei gydwybod.

O’r diwedd mae pwysau yn cael ei roi ar y llywodraeth ffiaidd, asgell dde yma i newid eu hagwedd a’u hymdriniaeth o bobl.

Mae tua 16 o bobl o dramor wedi eu carcharu yn Belmarsh, a dwy garchar arall. Maent wedi eu carcharu ar yr amheuaeth o fod yn derfysgwyr, ac felly yn fygythiad i ‘Brydain’. Does dim tystiolaeth wedi ei gyflwyno i awgrymu eu bont yn fygythiad. Does dim amser penodol wedi ei osod am pa hyd y mae’n nhw’n cael eu carcharu.

O’r rhai sydd wedi cael eu carcharu ar yr amheuaeth o fod yn derfysgwr o dan y ddeddf atal terfysgaeth newydd, ac sydd wedi cael eu rhyddhau, does dim un wedi cael eu darganfod i fod yn euog. Mae nhw wedi colli misoedd lawer o’u bywydau wedi eu carcharu mewn cell dywyll yn syml oherwydd eu cefndir a’u hil. Does dim rheswm arall. Ond mae’r rhai sydd wedi cael eu gadael yn rhydd wedi cael eu rhyddhau am mai ‘Prydeinwyr’ y’n nhw. Tramorwyr yw’r rhain yn Belmarsh, ac am y rheswm hyn mae nhw’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Hiliaeth yw hynny, a dim llai.

Dadl y llywodraeth yw fod gan y carcharorion yma hawliau sifil Brydeinig trwy eu ymwneud a’r SIAC (Special Immigration Appeals Commission). Ian Macdonald QC oedd yr aelod mwyaf blaenllaw o’r SIAC yma, a apwyntiwyd i gynrychioli’r carcharorion yma. Ond mae’r bobl yma yn cael eu carcharu heb achos, ac mae hynny yn anfoesol. Da iawn Ian Macdonald am ymddiswyddo o’r rol yma oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gweithredoedd y llywodraeth.

Yn anffodus mae nifer o’r carcharorion yma, ers cael eu carcharu, wedi mynd yn wallgo. Roedd un yn cael ei garcharu am 23awr y dydd, ond yn cael gwneud crochenwaith am ychydig bob diwrnod. Hwn oedd yn ei gadw i fynd. Penderfynodd awdurdodau Belmarsh i wadu’r weithred yma i’r carcharorion. Gyrrodd hyn y carcharor druan yn wallgo.

Gall hyn ddim fod yn iawn. Dyw e ddim yn foesol, ac mae’n rhaid iddyn nhw newid y drefn.

Eth sydd gan Blunckett i wneud a hyn?
Mae nifer yn datgan eu bont yn tosturio drosto am mai ‘cariad’ sydd yn ei yrru i wneud pethau byrbwyll, ac am ei fod yn ddall. Efallai yn wir, ac mae lle i gydymdeimlo ag ef am ei amgylchiadau personol. Serch hynny rwy’n cydymdeimlo lot yn fwy dros y trieiniaid ym Melmarsh sydd yn colli ar eu hunen, ac yn colli rhan o’u bywydau na ddaw byth yn ol iddyn nhw – hyn oll oherwydd agwedd a deddfau ffiaidd a hiliol Blunckett a’r llywodraeth bresenol.
Gwynt teg ar ei ol, medde fi.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top