Gwleidydd

Dyma ymdrech ar greu Blog gwleidyddol i Gymru yn y Gymraeg. Wna i ddim eich cam-arwain - mae gennyf farn a thueddiadau gwleidyddol amlwg, ac mi fydda nhw'n amlygu eu hun wrth i mi flogio. Mwynhewch y gwleidydda, ac unwch yn yr hwyl.

27.5.09

Ail-gydio?

Wel...ble mae dechrau dwedwch?
Mi wna i fynegu barn ar wahanol bethau, peth ohonyn nhw'n hanesyddol ac yn perthyn i'r bedair mlynedd diwethaf, dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.
Ro'n i'n mwynhau ysgrifennu'r blog yma am yr ychydig fisoedd yr oeddwn i'n gwneud hynny yn rheolaidd. Ar y pryd doedd yna ddim un blog arall yn mynegu barn am ddigwyddiadau gwleidyddol Cymru yn y Gymraeg yn bodoli. bellach mae yna lu ohonyn nhw. Mae'r sefyllfa yma felly yn gwneud i mi deimlo yn lletchwith braidd gyda enw'r blog yma, sydd yn swnio braidd yn drahaus, ond ymddengys fel ei fod yn amhosib i mi newid enw'r blog, felly ry'n ni'n styc da 'Gwleidydd'.
Felly i fynd yn ol at y cwestiwn gwreiddiol ar ddechrau'r cyfraniad yma - lle mae dechrau...neu efallai ail-ddechrau? Wel yma yng Nghymru fach wrth gwrs, ac mi wna i hynny yn y post nesaf.

Labels:

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

23.2.05


Gwyl Heddwch Cymru Gyfan - Aberystwyth 19 Mawrth Posted by Hello

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

21.12.04

Anfoesoldeb Belmarsh

Mae David Blunckett, un o’r Ysgrifenyddion Cartref mwyaf asgell dde yr wyf i’n sicr erioed wedi ei weld, wedi gorfod ymadael a’i swydd.

Mae’r ‘Law Lords’ wedi dyfarnnu fod cadw pobl o dramor fel carcharorion heb ddwyn achos yn eu herbyn am amser amhenodol, a heb ddangos tystiolaeth, yn erbyn eu hawliau dynol, ac yn anghyfreithlon.

Mae Ian Macdonald, QC, wedi ymddiswyddo fel un o’r rhai oedd wedi cael y dyletswydd o gynrychioli’r carcharorion yma, ar y sail fod y gyfraith gwrth-derfysgaidd newydd yma a ddaeth i rym yn 2001 i ganiatau carcharu heb achos yn anghyfreithlon, ac yn erbyn ei gydwybod.

O’r diwedd mae pwysau yn cael ei roi ar y llywodraeth ffiaidd, asgell dde yma i newid eu hagwedd a’u hymdriniaeth o bobl.

Mae tua 16 o bobl o dramor wedi eu carcharu yn Belmarsh, a dwy garchar arall. Maent wedi eu carcharu ar yr amheuaeth o fod yn derfysgwyr, ac felly yn fygythiad i ‘Brydain’. Does dim tystiolaeth wedi ei gyflwyno i awgrymu eu bont yn fygythiad. Does dim amser penodol wedi ei osod am pa hyd y mae’n nhw’n cael eu carcharu.

O’r rhai sydd wedi cael eu carcharu ar yr amheuaeth o fod yn derfysgwr o dan y ddeddf atal terfysgaeth newydd, ac sydd wedi cael eu rhyddhau, does dim un wedi cael eu darganfod i fod yn euog. Mae nhw wedi colli misoedd lawer o’u bywydau wedi eu carcharu mewn cell dywyll yn syml oherwydd eu cefndir a’u hil. Does dim rheswm arall. Ond mae’r rhai sydd wedi cael eu gadael yn rhydd wedi cael eu rhyddhau am mai ‘Prydeinwyr’ y’n nhw. Tramorwyr yw’r rhain yn Belmarsh, ac am y rheswm hyn mae nhw’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Hiliaeth yw hynny, a dim llai.

Dadl y llywodraeth yw fod gan y carcharorion yma hawliau sifil Brydeinig trwy eu ymwneud a’r SIAC (Special Immigration Appeals Commission). Ian Macdonald QC oedd yr aelod mwyaf blaenllaw o’r SIAC yma, a apwyntiwyd i gynrychioli’r carcharorion yma. Ond mae’r bobl yma yn cael eu carcharu heb achos, ac mae hynny yn anfoesol. Da iawn Ian Macdonald am ymddiswyddo o’r rol yma oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gweithredoedd y llywodraeth.

Yn anffodus mae nifer o’r carcharorion yma, ers cael eu carcharu, wedi mynd yn wallgo. Roedd un yn cael ei garcharu am 23awr y dydd, ond yn cael gwneud crochenwaith am ychydig bob diwrnod. Hwn oedd yn ei gadw i fynd. Penderfynodd awdurdodau Belmarsh i wadu’r weithred yma i’r carcharorion. Gyrrodd hyn y carcharor druan yn wallgo.

Gall hyn ddim fod yn iawn. Dyw e ddim yn foesol, ac mae’n rhaid iddyn nhw newid y drefn.

Eth sydd gan Blunckett i wneud a hyn?
Mae nifer yn datgan eu bont yn tosturio drosto am mai ‘cariad’ sydd yn ei yrru i wneud pethau byrbwyll, ac am ei fod yn ddall. Efallai yn wir, ac mae lle i gydymdeimlo ag ef am ei amgylchiadau personol. Serch hynny rwy’n cydymdeimlo lot yn fwy dros y trieiniaid ym Melmarsh sydd yn colli ar eu hunen, ac yn colli rhan o’u bywydau na ddaw byth yn ol iddyn nhw – hyn oll oherwydd agwedd a deddfau ffiaidd a hiliol Blunckett a’r llywodraeth bresenol.
Gwynt teg ar ei ol, medde fi.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

7.12.04

Hewl i'r genedl



Mae adroddiad ar dudalen flaen y Western Mail heddiw yn dweud fod Andrew Davies a llywodraeth y cynulliad am ddatblygu hewl i'r de o'r M4 fydd yn rhyddhau'r draffordd o'r holl draffig. Mae'r awdurdodau yn ochrau Casnewydd yn ddlau fod yr M4 bron a chyrraedd ei uchafswm o ran niferoedd ceir all deithio arno. Mae'r CBI a'r siambr fasnach yng Nghaerdydd ill dau wedi bod yn gwthio'n galed am hyn yn dadlau fod y draffordd fel ag y mae yn golygu nad yw'r ardal yn cael ei llawn botensial o fuddsoddiad, oherwydd y traffig. Bydd y cwbwl yn costio tua £360 miliwn yn ol y son, gydag awgrym mai datblyiad preifat fyddai a bod ffi yn mynd i gael ei godi am deithio ar yr hewl.

Galla i ddim a chefnogi menter o'r fath.

Yn un peth, yn wleidyddol, mae'n datblygu'r cyswllt rhwng 'De Cymru' a 'De Orllewin Lloegr a Llundain'. Gallau olygu mwy o fuddsoddi yn yr ardal hynny o Gymru, ond ar yr un pryd mae'n golygu mwy o deithio i'r cyfeiriad arall hefyd - mwy o allfudo. Rhaid i ni dderbyn mae'r ardal hynna o Gymru yw ardal cyfoethocaf ein cenedl - yn arianol - a byddi datblygu gwell cyswllt a Lloegr ond yn golygu fod yr arian yn mynd allan o Gymru. Mae'n rhaid datblygu ffyrdd o gadw arian yng Nghymru. Mae hyn yn mynd yn erbyn hynny.

Gwnaeth yr IWA (Sefydliad Materion Cymru/Instituet of Welsh Affairs) adroddiad nol yn 2000 oedd yn awgrymu datblygu cysylltiadau rhwng y de a'r gogledd. Roedd yr adroddiad yn awgrymu gwella rhai rhannau o'r ffyrdd trwy'r canolbarth ac ar hyd y Mers - ymestyn o ddwy lon i dair, datblygu llefydd pasio ac ati. Byddai hyn, medden nhw, yn torri amser teithio o'r de i'r gogledd o tua awr, ac yn costio £123miliwn.

Roedd Friends of the Earth Cymru yn dadlau yn erbyn syniad yr IWA ac yn dadlau am yr angen i wella y Traws Cambria, datblygu trafnidiaeth dren, ynghyd a gwella rhannau o'r heolydd. Roedd eu hawgrymiadau nhw yn costio £60 miliwn.

Ystyriwch petai ni yn datblygu gwell cyswllt rhwng y de a'r gogledd. Byddai hyn yn caniatau gwell buddsoddi mewnol yn ein cenedl - byddai cwmniau yn gallu tendro yn haws am waith ym mhen arall y wlad, ac yn fwy cystadleuol am fod y trafndaiaeth yn well. Byddai hyn yn defnyddio llafur lleol, adnoddau lleol - hyn oll a mwy, ond yn sylfaenol bwysig byddai arian yn aros yng Nghymru ac yn cylchdroi yma. r hyn mae datblygu 'releif road' i'r M4 am wneud yw caniatau cwmniau mawr Lloegr i dendro am waith cyhoeddus a phreifat yn Ne Cymru (lle mae'r holl datblygiadau). Dyna sy'n digwydd nawr, a does dim peynt i ni esgus nagefe - bydd hyn ond yn gwneud hynny'n waeth.

Oes, mae yna 'congestion' difrifol yn rhannau o'r M4. Mae'n amlygu ar adegau penodol o'r diwrno gan fwyaf - cyn 9 y bore ac wedi 5 yr hwyr. Traffig gwaith ydyw. Mae'n ymddangos wrth fod degau o filoed o bobl yn teithio i ac oddi o'r gwaith oll yn gyrru eu car eu hunen. Mae'n rhaid buddsoddi felly mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus - system o dacsi's gwaith yn cael ei rhan ariannau gan y cwmni, neu'r siambr fusnes lleol, neu'r llywodraeth leol, a'r gwithiwr/aig eu hunen. Datblygu'r rheilffyrdd lleol yno a sicrhau fod trennau yn mynd bob tua chwarter awr rhwng Caerdydd a Chasnewydd os oes raid fel bo gweithwyr yn gallu teithio yn gyfleus.

Nid euddigedd mo hwn fod rhagor o fuddsoddi yn mynd i'r rhan honno o Gymru - er fod honna yn ddadl deg syd angen ei chyflwyno - ond mae'n fwy o lawer na hynny. Mae'n golygu ein bod ni unwaith eto yn methu a chydweithio fel cenedl; ein bod ni yn gweld ein dyfodol a llwyddiannau yn gorwedd yn Lloegr; nad oes hyder ynddom ni fel cendel a ffydd yn ein gilydd. Diffyg adnabyddiaeth o'n gilydd sydd wedi datblygu ar hyd y canrifoedd yw hyn. Mae wedi cael eu atgyfnerthu drosodd a throsodd gydar M4 a'r A5, ac mae hyn ond yn datblygu ar hynny.

Byddai datblygu cyswllt, boed yn ffyrdd neu'n reilffyrdd, rhwng y de a'r gogledd dreian pris y 'releif road' yma. Gellir wedyn buddsoddi gweddill yr arian i sicrhau gwell trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr y de ddwyrain fydd yn rhyddhau yr M4.

Adroddiad Friends of the Earth yn ymateb i gynnigion yr IWA yn 2000

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

24.11.04

Hunsawdd o ofn



Roedd araith y ‘Frenhines’ ddoe yn canolbwynio ar ddiogelwch.
Treni mawr bod y llywodraeth yn gwneud mor a mynydd o ‘ddiogelwch’ – yn hala ofn ar bobl ac yn creu hunsawwd lle y bydd hawl gan yr heddlu a’r wladwriaeth i anwybyddu hawliau dynol pobl yn enw ‘diogelwch’.

Cymrwch er enghraifft yr ASBOs (Anti Social Behaviour Orders) sydd wedi dod i’r feu yn ddiweddar. Yr hyn mae pethau o’r fath yn wneud, yn fwy na dim arall, yw gwthio pobl i ffwrdd, yn brandio pobl yn ‘thygs’ yn ‘ddrwg’ neu beth bynag ac yn datgan nad oes croeso i bobl o’r fath yn ein cymdeithas gwar ni. Yr hyn mae hynny’n greu yw dwy ddosbarth o bobl – y Ni a Nhw. Mae’n atgoffa fi rywfaint o’r ffilm ‘Judge Dread’ lle mae ‘gwehilion cymdeithas’ yn cal eu gwthio i ‘slyms’ neu i dir diffrwyth – yn ddigon tebyg i Van Demon’s Land ac Awstralia gant a hanner o flynyddoedd yn ol.

Mae’r syniad yma o gardiau adnabod mond ymestyn ac yn ehangu ar hyn.

Does dim tystiolaeth y byddan nhw’n gwneud ‘y wlad’ yn lle mwy diogel – yn wir mae gan Sbaen drefn o’r fath eisioes a llwyddodd y bomwyr i ffrwydro bom yn Madrid - mond ffordd i’r llywodraeth a’r heddlu gael cadw trac ar bobl a sicrhau fod dinasyddion yn gweithredu yn unol a ewyllys y llywodraeth yw hyn. Ac mae’n nhw’n honni ein bod ni mewn gwlad ddemocrataidd, ac yn mynd i ryfeloedd gan ladd cannoedd o filoedd o bobl yn enw democratiaeth!!! Bydd cardiau adnabod o’r fath yn golygu fod pobl sydd a daliadau gwahanol – yn benodol o gefndiroedd ‘ethnig’ – yn cael eu discrimineiddio.
Joc llwyr. Wrth gwrs mae yna honiadau fod y mwyafrif o bobl yn ei gefnogi, ac mae’n siwr fod hynny’n wir. Mae’r mwyafrif o bobl yn wyn, siarad Saesneg, yn honni i ddod o gefndir ‘Cristnogol’, ac yn carbon copy bron o’r person gwyn sy’n byw drws nesa. Mae dweud fod rhywbeth yn ‘fygythiad’ iddyn nhw ond fod yna ffordd o waredu’r bygythiad yma yn bownd o apelio. Mae hyn yn chwarae ar yr un emosiynnau, hunanoldeb, a’r BNP. Mae’n mynd i olygu fod ein dosbarth canol gwyn Seisnig (a Chymraeg, ond mae nifer o’r Cymry yn poeni dim am hyn achos ein bod ni’n byw o dan y drefn Brydeinig ac yn gwneud yn llewyrchus iawn ohono diolch yn fawr iawn) yn ddiogel. Mae hefyd yn golygu fod pethau am aros fel ag y mae nhw gyda’r 10% cyfoethocaf yn aros yn y 10% hynny, a’r tlotaf a’r mwyaf anghenus – sydd yn dod o gefndiroedd difreintiedig, tlawd, sydd a hanes o ‘dorri’r gyfraith’ (oherwydd amgylchiadau, ond manylion yw hynny, pam poeni ein hunen gyda manylion dibwys o’r fath), ethnig – eu bod hwy i gyd yn aros yn eu lle!

Mae’n flin gyda fi i rygni ymlaen am y peth fel hyn, ond mae’r cwbwl yn dechrau gyda addysg. Rhaid addysgu plant yn gynar o werthoedd a daliadau sylfaenol. Rhaid rhoi balchder yn ol i bol, gan gael gwared o’r gwahanol ddosbarthiadau sydd yn bodoli yn ein cymdeithas gan sicrhau fod pawb yn gwe;d gwerth yn eu cyd-ddyn, fod pawb yn gydradd waeth beth fo eu swydd.

www.no2id.net
Arwyddwch y ddeuseb yn erbyn cardiau adnabod http://www.no2id-petition.net/

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

2.11.04

Ta-Ta Kennedy?



Ymddiheuriadau lu mod i heb fod yma ers cyhyd.
Ond ta waeth, wy am roi ymdrech ar broffwydoliaeth wleidyddol.

Mae Lembit Opik, AS i'r Democratiaid Rhyddfrydol, arweinydd y DemRhydd yng Nghymru a'r AS dros Faldwyn, wedi bod yn llythyru y Western Mail yn ddiweddar, ac mae'n rhaid dweud ei fod yn ddiddorol iawn yn beth mae'n ddweud. Dim achos y cynnwys deallwch, ond oherwydd y gwirioneddau eraill a geir o ddarllen rhwng y llinellau.

Mae wedi bod yn amddiffyn safbwynt y DemRhydd i beidio a chefnogi yr ymgyrch i Uchelgyhuddo Blair.

SIR - Glyn Morris's letter (October 18) misunderstands why the Liberal Democrats are not supporting moves to impeach the Prime Minister over Iraq.

When I first heard the idea, I was tempted by it. But, on reflection, I feel impeachment is a distraction. It misses the point.

We see the war in terms of questions of judgment and trust. The case against the Prime Minister is a political one which the Liberal Democrats will continue to pursue with the same vigour and clarity of thought we have shown for the last two years.

We don't need to impeach the Prime Minister to prove his monumental bad judgment. Charles Kennedy has shown that by challenging Blair directly at the dispatch box every week.

The most effective form of trial on this issue is guaranteed. Trial by voter - at the next general election.

LEMBIT OPIK MP



I bob pwrpas yr hyn mae’n ddweud a dangos yw natur hyder y Lib Dems wrth wynebu yr etholiad nesaf.

Mae’n nhw wedi adnabod y mater o ‘trust’ yn Blair fel un o’r ‘vote winners’ – fel yn wir mae pob plaid arall a hyd yn oed Llafur ei hun yn dechrau cydnabod erbyn hyn. Hefyd y cwestiwn o Irac yw un arall o’r prif ‘vote winners’. Mae’r ymgyrch I uchelgyhuddo Blair yn rhoi hyn oll yn y fantol. Byddai ei uchelgyhuddo yn llwyddiannus yn cael gwared ar Blair ac yn cau pen y mwdwl ar y ddadl ynghylch Irac (fel ag y mae – byddai’r cwestiynnau am a ddylai llywodraethau weithredu fel y gwnaeth Blair a Llafur yn ystod y rhyfel a chyn hynny yn parhau). O safbwynt pleidleisiau ac etholiadol gall y Democratiaid Rhyddfrydol ddim fforddio cefnogi’r ymgyrch.

Dengys hyn yn glir felly nad mater o egwyddor mo’I safiad ar Irac ond yn hytrach un o fanteisio etholiadol. Diolch Lembit am ddangos hynny mor glir I ni.

Serch hynny, mae arna I ofn fod y Dem Rhydd am gael trwyn gwaedlyd – hyd yn oed torri eu trwynnau. Mae nhw’n disgwyl bod yn brif wrthblaid yn dilyn yr etholiadau nesaf. Dyna yw eu cred a’I targed, ac wy’n credu eu bod nhw yn byw mewn byd breuddwyd. Er gwaethaf eu perfformiadau da diweddar mewn isetholiadau alla I ddim gweld y patrwm yn trosglwyddo I etholiad ‘cyffredinol’.

Bydd yna bleidlais brotest yn erbyn Llafur, ac mae yna beryg gwirioneddol yr aiff hi I’r Ceidwadwyr. Dyna pam fo y DRh yn targedu y seddau Llafur bregus. Y tebygrwydd yw os yw sedd yn gallu mynd tair ffordd mai I’r Ceidwadwyr yr aiff hi ermwyn cadw Llafur mas. Mae cefnogwyr y DemRhydd yn naturiol Geidwadol, ac wedi bod erioed. Y cwestiwn yw a fydda nhw yn newid trend a phatrwm diweddar I fynd yn ol at y Ceidwadwyr – rwy’n credu y gwna nhw. Rwy hefyd yn argyhoeddiedig mai Llafur fydd yn llywodraethu ond gyda nfer dipyn yn llai – yn wir lawr I 20 neu lai.

Mae pol piniwn diweddar yn dangos cefnogaeth Llafur +3, Ceidwadwyr +7, DRh –10. Sai’n ame yr aiff y DRh lan efallai hyd yn oed 10 sedd arall, ond byddan nhw ddim yn wrthblaid, a bydd holl amser ac adnoddau y Blaid wedi bod yn wastraff. Byddan nhw wedi eu dadrithio a bydd lot o ‘soul searching’ a Kennedy gaiff y bai. Bydd yna frwydyr am arweinydd, ac yna ymhen ychydig bydd y DRh yn crebachu yn ol.

Dyna broffwydoliaeth Y Pyndit!

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

Diwedd Irac ar yr agenda wleidyddol?



Beth bynnag fo canlyniadau etholiad arweinyddol America heno, gall olygu mai dyma fydd diwedd testun 'Irac' ar yr agenda wleidyddol - er mawr ryddhad i Blair a Llafur, ond er rhwystredigaeth anferthol i bob Plaid arall, yn enwedig PC/SNP a'r DRh.

Ystyriwch, pe enillai Bush yna bydd hynny yn cael ei ddefnyddio fel esgus i gyfiawnhau'r cwbwl; bydd pobl yn cael eu dadruthio a bydd Blair a Bush yn gallu parhau a'u polisiau tramor ffiaidd gan ddangos fod America yn cefnogi (ac os yw America yn cefnogi, yna mae hynny'n ddigon da i Brydain). Bydd lefel y dadruthio yn anferthol, gyda pobl yn dweud "beth yw'r pwynt?" ym mhob gwlad. Mae hynny yn beryg gwirioneddol.

Pebai Kerry yn ennill yna ar yr un llaw byddai carfan o fewn y 'mudiad' a wrthwynebodd y rhyfel yn datgan mai dyna ddiwedd yr ymgyrch - carfan cofiwch, nid y mwyafrif, er enghraifft carfan 'anti-Bush' y Blaid Lafur (syd yn sylweddol iawn). Ie, peth mewnol Llafur byddai yn fwyaf, ond dyma o bosib un o brif arfau y mudiad sef yr ansefydlogrwydd mewnol o fewn Llafur sydd yn ysgwyd y top ac felly yn dwyn pwysau, araf ond cyson, ar Blair a'r Cabinet. Byddai rhan holl bwysig o'r mudiad yn diflannu. Hefyd mae peryg y byddai rhan o'r farn gyffredin yn troi ac yn datgan buddigoliaeth, gan gredu - yn gam - mai Bush ei hun oedd y peryg.

Mae'n bwysig nad yw hyn yn digwydd ac ein bod ni yn cadw'r sylw ar gamau Blair. Mae'r mudiad gwrth-ryfel wedi clymu Bush a Blair yn un yn y gorffenol sydd wedi profi i fod yn arf hynod bwerus, ond gall hynny nawr brofi i fod yn niweidiol. Rhaid i ni nawr wahanu'r ddau a dangos fod yn rhaid i Blair ei hun fod yn atebol i weithredoedd Prydain, nid fod e'n talu'r pris 'by proxy' Bush, neu fod llwyddiant Blair yn anochel 'by proxy' llwyddiant Bush.

Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top

4.10.04

Ymgyrch y Mis - Deddf Iaith Newydd


Ymgyrch Mis Hydref yw Deddf Iaith Newydd - Statws i'r Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i Gymru. Rydym yn galw am ddeddf a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd.

Ar hyn o bryd, os ydyn ni eisiau rhywbeth yn Gymraeg - bil ffôn er engrhaifft, neu ffurflen - mae'n rhaid gofyn amdano ac yn aml does dim ar gael! Serch hynny, fe ddylai'r pethau hyn fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'i ffordd i ofyn am wasaneth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasaneth Cymraeg ar gael. O ganlyniad, mae angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.

Wrth gwrs, nid dyma unig ymgyrch Cymdeithas yr Iaith - ceir rhai eraill ym maes addysg a thai hefyd - ond does dim amheuaeth fod hon yn ymgyrch bwysig.

Cyfranna nawr trwy ddanfon neges ebost yn galw am Ddeddf Iaith Newydd at Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y Cynulliad) a Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith).

Cefndir
Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ol ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, ei ymateb oedd rhannu pobl Cymru trwy gynnig cyn lleied ag oedd modd. Pasiwyd Deddf Iaith wan!

Nid yw Deddf Iaith 1993 yn:

  • rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg
  • sicrhau gwasaneth Cymraeg gan y sector breifat
  • sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol

Am hynny mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Iaith Newydd!

Nôl ym 1993 roedd Rhodri Morgan yn cefnogi dadl Cymdeithas yr Iaith - gwrthododd gefnogi Deddf Iaith 1993. Dyma oedd ei eiriau bryd hynny:


"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."



Erbyn hyn, ac yntau yn Brif Weinidog Cymru, mae Rhodri Morgan wedi newid ei feddwl!

Beth gelli di wneud?
Danfon neges ebost yn galw am Ddeddf Iaith Newydd at Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y Cynulliad) a Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith).
Ysgrifennu at gwmni neu sefydliad preifat sydd yn methu darparu gwasanaeth Cymraeg ar hyn o bryd.
Postio eich sylwadau ar wefan y Gymdeithas ynglŷn â'r ymgyrch Deddf Iaith Newydd yn gyffredinol, i gynnig helpu gyda'r Ymgyrch Deddf Iaith Newydd, neu os oes gyda chi enghreifftiau o anghyfiawnderau.
Ymuno a'r Ymgyrch Deddf Iaith Newydd - Gwybodaeth isod

Ymuna yn yr Ymgyrch
Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd a thros hawliau cyfartal i'r Gymraeg. Er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch, darganfod beth yw'r camau nesaf, neu ymaelodi â'r grŵp Deddf Iaith cysyllta â Rhys Llwyd (Cadeirydd Grwp Ymgyrch Deddf Iaith Newydd).

    Danfonwch e-bost ata i am y pwnc yma Nol i'r Top